o’th fodd, a chan y credaist fy nghenhadau, minnau a’th fawrhaf di, ac a’th ddyrchafaf yn uchaf ac yn bennaf o’th genedl di. Ac mi dalaf it yn gymaint ag y cynghorfynno pawb o’th genedl wrthyt. A mi a roddaf it dy holl dir yn rhydd.”
A phan gigleu Gruffydd hynny, anfon cenhadau a orug at y brenin, i geisio heddwch ganddo. A’r brenin a’i cymerth ef i heddwch drwy dalu ohono dreth fawr iddo. Ac ymchwelyd a orug y brenin i Loegr, ac erchi i Owen ddyfod gydag ef, a dywedyd y talai iddo a fyddai cyfiawn, a dywedyd wrtho,—"Hyn a ddywedaf it. Mi a af i Normandi, ac o deui di gyda mi, mi a gywiraf it bob peth ar a addewais it, a mi a’th wnaf yn farchog urddol.” A chanlyn y brenin a wnaeth drwy y môr. A’r brenm a gywirodd iddo bob peth ar a addewis iddo.