Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/85

Gwirwyd y dudalen hon

ystiward; weithiau ereill gyda'i geraint; weithiau yng Ngwynedd; weithiau yn absen o le i le. Yn y diwedd ei cyhuddwyd wrth y brenin, a dywedyd fod meddwl pawb o'r Brytaniaid gydag ef, drwy ei ryfygu o frenhinol feddiant Henri frenin. A phan gigleu Gruffydd y chwedlau hynny, arfaethu a wnaeth at fyned at Ruffydd fab Cynan i geisio amddiffyn ei hoedl. Ac wedi anfon cenhadau ef addewis, o deuai ato, ei arfolli yn llawen. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Rhys. hynny, ef a Hywel ei frawd a aethant ato. Yr Howel hwnnw a fuasai yng ngharchar Ernwlff fab Rosser, iarll Castell Baldwin, yr hwn a roddasai Wilym frenin iddo cyfran o gyfoeth Rhys fab Tewdwr. Ac yn y diwedd y diangasai yr Hywel hwnnw yn anafus, wedi trychu ei aelodau, o'r carchar. Ac yna arfolled hwynt, ac eraill gydag hwynt, yn hygar gan Ruffydd ab Cynan.

Ac ynghyfrwng hynny, wedi clybod o'r brenin fyned Gruffydd ab Rhys at Ruffydd ab Cynan, anfon cenhadau a wnaeth at Ruffydd fab Cynan i erchi iddo ddyfod ato. Ac megis y mae moes y Ffreinc dwyllo dynion drwy addewidion, addaw llawer a wnaeth Henri frenin iddo