Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/87

Gwirwyd y dudalen hon

1113. Cyrchodd y Gruffydd ab Rhys a ddywedasom ni uchod, yn ei frwydr gyntaf, y castell oedd yn ymyl Arberth, ac ei llosges. Oddyna daeth hyd yn Llanymddyfri, lle yr oedd castell neb un tywysog a elwid Ricert Pwnswn, y gŵr y rhoddasai Henri frenhin iddo y Cantref Bychan, a phrofes ei dorri a'i losgi, ac nis gallodd, canys ymwrthladd ag ef a wnaeth ceidwaid y castell, a chydag hwynt Meredydd fab Rhydderch fab Caradog, y gŵr a oedd yn cynnal ystiwardiaeth dan y dywededig Ricert. Y rhag gastell eisoes a losges; ac wedi ymsaethu o'r tŵr ag ef, a brathu llawer o'i wyr â saethau, a lladd ereill, yr ymchwelodd drachefn. Ac wedi hynny anfones ei gymdeithion i wneuthur cyrch a chynnwri ar gastell a oedd yn ymyl Aber Towy, a hwnnw a bioedd iarll a elwid Henri Bemwnd. Ac wedi llosgi y rhag gastell, ac amddiffyn o'r ceidwaid y tŵr, a lladd rhai o'i wyr, yr ymchwelodd drachefn. Ac wedi clybod hynny, ac ymgynnull ato lawer o ynfydion ieuainc o bob tu, wedi eu twyllo o chwant anrheithiau, neu o geisio adnewyddu Brytanawl deyrnas, ac ni thâl ddim oni bydd Duw yn borth iddo, gwneuthur a orug уsglyfaethau mawr yn ei gylch o gylch.