YSGRIFENNWYD Brut y Tywysogion tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ol pob tebyg yn mynachdy Ystrad Filur yng Ngheredigion. Cronicl hanes y Cymry yw, o gwymp teyrnas y Brytaninid, pan fu farw Cadwaladr Fendigaid yn 680, hyd fin cwymp tywysogaeth anibynnol y Cymry, pan laddwyd Llywelyn y Llyw Olaf, yn 1282.
Ceir cipolygon ar brif arwyr y Cymry,— megis Hywel Dda. Llywelyn ab Seisyll, Gruffydd ab Llywelyn, meibion Bleddyn ab Cynfyn. Gruffydd ab Cynan, Gruffydd ab Rhys. Owen Gwynedd, Owen Cyfeiliog, yr Arglwydd Rhys. Llywelyn Fawr, a Llywelyn y Llyw Olaf. Gwelir y gwahanol genhedloedd dyfod yn cyrraedd Cymru—y Saeson, y cynhedloedd duon, ac yn enwedig y Normaniaid a'r Ffleminiaid. A rhoir ambell air i ddweyd am ddyfodiad y mynachod gwynion i'r wlad. Ceir ambell drem, hefyd ar y werin a'i dioddef a'i hamynedd, yn enwedig yng Ngheredigion a Dyfed.
Cyfnod y tywysogion yn unig ddarlunnir yn y cronicl llawn a dyddorol hwn. Cyn hynny, yr oedd ysbryd ymherodraeth Rhufain megis yn teyrnasu arnynt o hyd; wedi hynny, cododd y werin i groesawn Owen Glyndŵr. Yn eu cestyll a'u hymladd a'u hela, rhai dyddorol oeddynt; tywysog, castell a mynachlog oedd tri hanfod bywyd llenyddol, llwyddiannus. difyr. Siarad-