Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/90

Gwirwyd y dudalen hon

dywed Selyf "dyrchafel a wna ysbryd yn erbyn cwymp," yna yr arfaethodd, yn chwyddedig o falchder ac o draha yr anosparthus bobl a'r ynfyd giwdod, cyweirio ynfydion o Ddyfed i Geredigion, a chymeryd gwrthwynebedd i'r gyfiawnder; gwedi galw o Gedifor ab Gronw, a Howel fab Idnerth, a Thrahaearn ab Ithel, y rhai a oeddynt yn dynesau o gyfnesafrwydd gerennydd a chyfadfab, a dyuno arglwyddiaethau iddo. A'r rhai hynny a oeddynt gydag ef ym mlaen holl wyr Ceredigion; ac ni allai dim fod yn ddireitiach na'r Cadifor hwnnw i'r wlad a chyffredin cyn nag iddo adaw Dyfed yn llawn o amryfaelon genhedloedd, nid amgen Filemisiaid a Ffreinc a Sacson, a'i giwdawd genedl ei hun, y rhai, cyd beynt un genedl â gwyr Ceredigion, eisoes gelynion galonnau oedd ganddynt o achos eu hanesmwythdra a'u hanundeb cyn na hynny. Ac yn fwy na hynny, rhag ofn y tremyg a wnaethent i Henri frenin, y gŵr a ddofasai holl benaduriaid ynys Prydain a'i allu a'i feddiant, ac a ddarostyngasai lawer o wladoedd tramor wrth ei lywodraeth, rhai o nerth arfau, eraill o aneirif roddion aur ac arian; y gŵr nis dichon neb ymosgryn ag ef eithr Duw ei hun, y neb a roddes y meddiant iddo.