Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/93

Gwirwyd y dudalen hon

au, ac yn meddylio pa ffurf y torrent y castell, y dydd a lithrodd haeach onid oedd brydnawn. Ac yna yr anfones y castellwyr, megis y mae moes gan y Ffreinc gwneuthur pob peth drwy ystryw, gyrru saethyddion hyd y bont i fiere â hwynt, megis, o delynt hwy yn ansynhwyrawl dros y bont, y gallai farchogion. llurugog eu cyrchu yn ddisyfyd, a'u hachub. A phan welas y Brytaniaid y saethyddion mor lew yn cyrchu y bont, yn ansynhwyrus y rhedasant yn eu herbyn, gan ryfeddu paham mor ymddiriedus y beiddient gyrchu y bont. Ac fel yr oedd y naill rai yn cyrchu a'r rhai ereill yn saethu, yna y cyrchodd marchog llurugog yn gynhyrfus y bont. A rhai o wyr Gruffydd a'i cyferbynodd ar y bont, ac yntau yn arfaethu eu cyrchu hwyntau. Ac yna eisoes y torres y march ei fwnwgl; ac wedi brathu y march, y digwyddodd. Ac yna arfaethodd pawb â gwewyr ei ladd yntau; a'i lurig a'i hamddiffynnodd oni ddaeth neb un o'r fyddin a'i thynnu. A phan gyfodes ynteu y ffoes. A phan welas ei gymdeithion ef yn ffoi, ffoasant hwyntau oll. A'r Brytaniaid a'u hymlidiodd hyd yng ngwrthallt y mynydd. Y dorf ol eisoes nid ymlidiodd, namyn, heb