geisio na phont na rhyd, cymryd eu ffo a wnaethant. A phan welas y Ffreinc o ben y mynydd y rhai hynny yn ffoi, cyrchu y dorf flaen a wnaethant, a lladd cymaint ag a gawsant. Ac yna y gwasgarwyd y giwdod bobl ar draws y wlad o bob tu, rhai a'u hanifeiliaid ganddynt, rhai eraill wedi gado pob peth namyn ceisio amddiffyn eu heneidiau, oni adewid yr holl wlad yn ddiffaeth.
Ynghyfrwng hynny anfones Henri frenin genhadau at Owen fab Cadwgan, i erchi iddo ddyfod ato. Ac yntau yn y lle a ddaeth. Y phan ddaeth, dywedodd y brenin wrtho, "Fy ngharedicaf Owen, a adwaenost ti y lleidryn gan Ruffydd fab Rhys, y sydd megis yn ffoedig yn erbyn fy nhywysogion i? Ac achos canys credaf i ti ddyfod yn gywiraf gŵr i mi, mi a fynnaf dy fod di yn dywysog llu gyda'm mab i i wrthladd Gruffydd fab Rhys. A mi a wnaf Lywarch fab Trahaearn yn gydymaith it, canys ynnoch chwi eich dau yr ymddiriedaf. A phan ymchwelych drachefn, mi a dalaf bwyth it yn deilwng." A llawenhau a orug Owen o'r addewidion hynny, a chynnull llu, a Llywarch gydag ef, a mynd i gyd hyd yn Ystrad Tywi, lle y tybygid fod Gruffydd fab Rhys yn trigo,