Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/95

Gwirwyd y dudalen hon

canys coetir oedd, ac yn anawdd ei gerdded, ac yn hawdd rhuthro gelynion ynddo. A phan ddaeth i derfynau y wlad, holl wyr Owen a mab y brenin a'u cymhorthiaid a anfonasant eu byddinoedd i'r coedydd, pawb dan yr amod hwn,—nad arbedai neb ei gleddyf, nac i wr nac i wraig, nac i fab nac i ferch; a phwy bynnag a ddelynt, nas gochelynt heb ei ladd neu ei grogi neu drychu ei aelodau. A phan gigleu giwawd bobl y wlad hynny, ceisio a wnaethant ffurf y gallent gael amddiffyn. Ac felly y gwasgarwyd hwynt,—rhai yn llechu yn y coedydd, eraill yn ffoi i wladoedd eraill, eraill yn ceisio amddiffyn o'r cestyll nesaf y daethont o honynt, megis y dywedir mewn Brytanawl ddihareb, Y ci a lyfa yr arf y brather ag ef. Ac wedi gwasgaru y llu dan y coedydd, fe ddamweiniodd i Owen, ac ychydig o nifer gydag ef, gyrchu y coed, o amgylch dengwyr a phedwar ugain, ac yn edrych a welynt oleu dynion. Nachaf y gwelynt oleu dynion yn cyrchu parth a chastell Caerfyrddin, lle y darfu iddynt wneuthur eu heddwch. A'u hymlid a wnaeth hyd yn agos i'r castell; ac wedi eu dal yno, ymchwelyd at ei gymdeithion a orug.