frawd a chwaer un dad ac nid un fam; canys Angharad ferch Feredydd fab Owen oedd fam Bleddyn, a Chynfyn ab Gwerstan oedd eu tad eill dau. A'r castell ddywedasom ni oedd yn y lle a elwid Cymer ym Meirionnydd. Canys Cadwgan fab Bleddyn a roddasai Feirionnydd a Chyfeiliog i Uchtryd fab Edwin, dan amod ei fod yn gywir iddo ac i'w feibion, ac yn gynhorthwy yn erbyn ei holl elynion. Ac yntau oedd wrthwynebwr ac ymladdgar yn erbyn Cadwgan a'i feibion. Ac wedi colli Owen, heb debygu gallu dim o feibion Cadwgan, y gwnaeth ef y dywededig gastell. Ac hwyntau a ddywedasom i fry, drwy sorr a gyrchasant y castell, ac a'i llosgasant. Ac wedi foi rhai o'r gwarcheidwaid, a dyfod ereill atynt hwyntau i heddwch, achub a wnaethant Feirionnydd a Chyfeiliog a Phenllyn, a'u rhannu rhyngddynt. Ac i Ruffydd fab Meredydd y daeth Cyfeiliog a hanner Penllyn a'r hanner arall o Benllyn i feibion Cadwgan fab Bleddyn.
Ynghyfrwng hynny y terfynodd y flwyddyn yn flin ac yn adgas gan bawb.