bedydd, fod gan ei thad dŷ a rhai meysydd, a'u bod yn llwyddo i fyw yn fain ar gynnyrch y rhai hynny.
A than ymddiddan felly cyraeddasant y pentref. Holodd Jeanne ple yr oedd Remy yn mynd i dreulio'r noson.
"Yn y lle y treuliais y tair diweddaf," ebr y bugail ifanc; "wrth borth yr eglwys, y garreg yn wely a'r nef serennog yn babell."
Gofynnodd Jeanne iddo ar beth y bwriadai swperu.
"Ar grystyn o fara caled wedi ei fwydo yn ffynnon y pentref," ebr yntau.
Mynnai hithau wybod beth oedd ganddo at barhau ei daith hyd yn Vassy.
"Iechyd da a Rhagluniaeth Dduw," ebr Remy.
"Am yr olaf fe gewch hwnnw'n siwr," atebodd Jeanne dan wenu; "ond hefo'r bara caled mi allaf fi roi llaeth ein geifr, ac yn lle cysgu ar garreg y porth cewch le dan do Cristnogion."
Gyda'r gair arweiniodd ef at dŷ â'i do gwellt wedi ei addurno â mwswg ac ambell dusw o redyn. Yr oedd y teulu ar fedr eistedd wrth y bwrdd. Gwnaeth Jeanne i Remy fynd i mewn, dangosodd iddo'r lle a fwriadesid iddi hi ei hun, ac yna ymneilltuodd i gongl y pentan i weddïo.
Ni wnaeth neb sylw o'i gwaith yn gosod y bachgen dieithr yn ei lle ei hun; yr oedd pawb wedi hen arfer â pheth felly. Gwyddai fod ei theulu yn rhy dlawd i roddi elusen, ac ni fynnai i'w haelioni hi gyfyngu ar raid neb o'r lleill, felly ni roddai elusen byth ond o'r hyn a ddigwyddai o'r da i'w rhan hi; a rhoddai i'r tlawd a wahoddai i mewn ei lle wrth y bwrdd a'i gwely gwellt.
Bwriasid brigau ar y tân er mwyn sirioldeb yn ogystal ag i leddfu min awel yr hwyr; ac wedi i Remy a'r teulu nesu i'r aelwyd, dechreuodd hi ei holi ynghylch y pethau a glywsai