"O, o'r goreu," atebai'r gŵr eglwysig a'i olygon yn troi at ei bib wydr. "Ac 'rwy'n deall eich bod chwi'n dod ar ran perthynas?"
"Oddiwrth Jérôme Pastouret."
"Y fo, aie . . . . cefnder . . . . dyn rhagorol; a sut y mae fy nghefnder Pastouret?"
"Y mae o wedi marw."
Cododd y mynach ei ben yn sydyn, a thynnodd ei sbectol.
"Wedi marw!" ebr ef; "Jérôme wedi marw?"
"Ers mis."
"O, o'r goreu," ebr Cyrille; dyna'r geiriau a arferai'n gyffredin yn wyneb pob croes a siom. "Ac o ba afiechyd?"
"Wn i ddim," atebai'r llanc, â'i lais yn crynu peth wrth yr atgof; "aeth i gysgu un noson dan gwyno bod poen yn ei ochr . . . . drannoeth yr oedd yn waeth . . . . y diwrnod wedyn galwodd fi a gyrrodd fi i gyrchu offeiriad."
"Am ddoctor y dylasai anfon," ebr Cyrille ar ei draws. . . . . "Am bob un o'r ddau, ddylaswn i ddweyd. . . . . Dolur yn ei ochr a pheswch a chaethder, y mae'n debig . . . . Phlebotomia est.[1] . . . . Oni wnaeth neb ddim?"
"Gwrandawodd yr offeiriad ei gyffes, fy nhad."
"O'r goreu," ebr y mynach mewn tôn ofidus . . . . "ac . . . . yna fe fu farw?"
"Yn y nos," atebai Remy, ar fin torri i wylo.
Y brawd Cyrille yn amneidio'n ysgornllyd.
"O'r goreu, o'r goreu," ebr ef dan gilio rai camau'n ôl yn y parlwr. "Dyna fel y mae hi, er i wyddoniaeth gynhyddu o ddydd i ddydd, rhaid i anwybodaeth y werinos gael gwneud y cwbl yn ofer. . . . . Servum pecus[2]. . . . . 'doedd dim ond eisio gwaedu'i fraich chwith o . . . . fel y gwaedir