Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/34

Gwirwyd y dudalen hon

"Duw a'm damnio i! Cell swynwr sy'n y fan yma," meddai'r milwr, wedi sefyll yn stond wrth ddrws y laboratori, a math ar ffieidd-dod yn ei lenwi wrth fwrw golwg ar y taclau rhyfedd a'i dodrefnai.

Cododd y brawd Cyrille ei ben.

"Pwy ydyw hwn?" gofynnai mewn syndod mawr.

"On'd ydych chwi'n gweld yn burion mai saethydd rhydd wyf fi?" atebai'r clwyfedig.

"A beth sydd arnoch chwi ei eisio?"

Dangosodd y milwr ei goes.

"Dyna!" ebr ef, "y mae chwe mis er pan ges i godwm, a byth er hynny y mae'r clwyf yn mynd o ddrwg i waeth."

"O, o'r goreu!" ebr y mynach, erbyn hyn yn llawn diddordeb. Parodd i'w ymwelydd eistedd er mwyn datod y rhwymyn oddiam ei goes. "Hen glwyf ydyw hwn, felly?"

"Llawer iawn rhy hen," atebai'r saethydd; "ofer fu pob ymgynghori â'ch cymrodyr, y pum can diawl a'u cipio nhwy; y mae'r clwyf yn mynd beunydd yn waeth."

"Mi ddalia i mai mynd at y barbwyr[1] a wnaethoch chwi," ebr y tad Cyrille, dan bara i ddatod y rhwymyn, "neu at rai o gwaceriaid y cyllyll cerrig. Y mae anwybodaeth clwyfedigion yn anghredadwy! Ant ar eu hunion i unrhyw siop lle y gwelant ffleimiau, heb ymdrafferthu i edrych ai potyn eillio ai blwch meddyg a fydd ei harwydd."

"Sôn am arwyddion, 'wnes i ddim â neb ond â'r sawl sy'n crogi tusw o iorwg," atebai'r milwr. "Ond beth feddyliwch chwi o 'nghoes i?"

"O'r goreu," meddai'r mynach, dan archwilio'n ofalus y briw a ddadorchuddiasai . . . . "Enyniad . . . . chwydd crawnllyd . . . . cornwyd pur ddifrifol."

"Ydych chwi'n meddwi bod rhywbeth i'w wneud?"

  1. nodyn12