o'r Salmau, ac felly galwai ei hun yn Exaudi Nos.[1] Newydd gyrraedd i Vassy yr oedd, ac yn ei frys i ymgynghori â'r brawd Cyrille, rhedasai i'r fynachlog ar ei gythlwng. Deallodd y mynach nod y gyfrinach hon, ac anfonodd Remy i'r bwtri i gyrchu "rhan dieithrddyn" a photyn o win y cleifion.
Llwyr enillodd y gymwynas hon galon y saethydd, a daeth yn fwy siaradus fyth. Dechreuodd adrodd sut y deuthai i Lorraine gydag un o genhadon y brenin, o'r enw Collet de Vienne, a gludai genadwri i arglwydd Baudricourt, llywodraethwr dinas Vancouleurs.
Gofynnodd Remy iddo a oedd newyddion da.
"Da i'r Saeson, malltod Satan fo arnynt!" atebai'r saethydd. "Daliant i warchae Orleans, ac y maent wedi codi gwarchgloddiau o'i chwmpas, sy'n gwneud trafnidiaeth â hi'n amhosibl; ac mor drwyadl eu gwaith nes bod pobl y ddinas yn trengi o newyn wrth ddisgwyl am gael eu lladd."
"Oni ellir dwyn rhyw swcwr iddynt?" gofynnai'r bachgen.
"Er mwyn cael gweled ail ddechreu diwrnod y Penwaig?"[2] atebai Exaudi Nos. "Na, na, y mae'r Drindod a'i holl lu ar ochr y godemiaid.[3] Orleans yw rhagfur olaf y deyrnas; unwaith y syrthio hi i ddwylo'r Saeson, ni bydd dim i'w wneud ond encilio i Dauphiné, a dyna ddywedir yw bwriad y brenin Siarl VII."
"Dyma newyddion trist i'w dwyn i Lorraine," sylwai'r brawd Cyrille; er ei holl lafur gwyddonol, parhai ef yn wlatgarwr uniawn a chywir.
Llanwodd Exaudi Nos ei wydr, a gwacâodd ef ar un gwynt; cleciodd ei dafod ar daflod ei safn, ac ysgydwodd ei ben yn ddiofal.
"Pw," ebr ef yn chwyddedig ei dôn, "wedi'r cyfan, nid yw hi'n ddrwg iawn ond ar y gwreng a'r taeogion. Am