Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

danom ni, ryfelwyr, ennill i ni yw'r cwbl, ac fel y dywaid ein capten ni, y defaid nad oes iddynt na chŵn na bugeiliaid yw'r hawsaf i'w cneifio."

"O, dyna ydyw barn eich capten, aie?" ebr y mynach wrth dynnu at orffen trwsio'r briw. "A pheth, tybed, yw enw'r Ffrancwr rhagorol hwn?"

"Pardieu! fe ddylech ei adnabod," ebr y saethydd, y gwin yn ei wneud yn fwyfwy cartrefol. "Ar ôl bastard Vaurus, y fo ydyw'r ysgelerddyn pennaf yn Ffrainc a Lloegr. Fe fyddwn ni yn ein plith ein hunain yn ei alw yn Dad y Saith Bechod Marwol, am ei fod yn eu meddu i gyd; ond yr arglwydd de Flavi yw ei enw iawn."

"A ydych chwi yn ei wasanaeth o?" gofynnai Remy mewn syndod.

"Wel, myfi yw ei yswain cyfrinachol," atebai Exaudi Nos yn bwysig iawn. "Mi wn i ei holl fusnes cystal ag y gwn i fy musnes fy hun."

"Ac y mae hynny'n talu'n dda i chwi?"

"Canolig iawn; y mae pwrs yr arglwydd de Flavi wedi ei gau â dau glo clap anodd eu hagor, sef tlodi a chybydd-dod; ond cyn hir fe'i gwaredir oddiwrth y cyntaf."

"Y mae eich meistr, felly, yn disgwyl ffawd dda o'r rhyfel?"

"Gwell na hynny. Y fo yw perthynas nesaf yr arglwyddes de Varennes, ac ni bydd hi'n hir eto heb ado'i chyfoeth iddo. . . . . Buasai wedi gwneud hynny eisys, onibai am dystiolaeth rhyw ddyhiryn o grwydryn."

"Beth?"

"O, y mae hi'n gryn stori," ebr Exaudi Nos, a gorffen y llestr gwin. "Rhaid i chwi ddeall yn gyntaf na fu i'r arglwyddes de Varennes ond un mab, ac iddi golli hwnnw pan oedd o 'n fychan iawn, a'i bod hi'n ddiweddar wedi ei gadael