yn weddw; ac felly, wedi diflasu ar y byd, dymunai adael y llys lle y mae'n forwyn anrhydedd, a gadael ei thir i'w chefnder, yr arglwydd de Flavi. Yr oedd ar fedr ymneilltuo i leiandy tua deufis yn ôl pryd y dywedwyd wrthi fod ei mab yn fyw."
"Ei mab?"
"Ie, diflanasai tua deng mlynedd yn ôl heb i neb wybod beth a ddeuthai ohono. Yn unig tybid mai'r Iddewon[1] a'i lladratasai i bwrpas eu rheibiaeth.
"A chamgymeriad oedd hynny?" gofynnai'r brawd Cyrille, yn amlwg yn llawn diddordeb.
"Feallai," atebai'r saethydd, "oblegid wrth farw yn ddiweddar yng nghartre'r gwahangleifion yn Tours, tystiodd sipsiwn mai ef a'i lladratasai ym mhorth Notre Dame."
Rhedodd ias tros y mynach a Remy.
"Ym mhorth Notre Dame?" meddynt gyda'i gilydd.
"Ar Ddydd y Pentecost," ebr Exaudi Nos.
Methodd y llanc a pheidio a gwaeddi.
"Y mae hyn yn eich synnu," meddai'r saethydd, yn camgymryd achos ei deimlad; "peth digon cyffredin yw hyn. Y mae lladron plant cyn amled ym Mharis â pherchyll Antwn Sant."
"Ac wedi ei ladrata, oni ddygwyd mab yr arglwyddes de Varennes i Lorraine?" gofynnai'r tad Cyrille.
"Yn hollol felly," atebai Exaudi Nos.
"Ac yno fe'i rhowd i fagwr geifr?"
"Do siwr."
"Sipsiwn oedd y lleidr, a gelwid ef y brenin Horsu?"
"O ble ddiawl yr ydych chwi'n gwybod hyn i gyd, fy mharchedig?" gwaeddai'r saethydd mewn syndod.
"O, y mae gen i fam, felly," llefai Remy, dan don o deimlad na ellir ei disgrifio.
- ↑ nodyn16