Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

"Ie, cyn wired ag mai fy mrawd Pierre yw hwn," ebr y llances, gan bwyntio at filwr ifanc oedd newydd nesu atynt. "A diolch i'r Meistr Mawr am osod ar fy ffordd wyneb a adwaen, ac un a ddwg i'm cof fy mhentref truan."

"Duw cato ni! Ers pa bryd y mae genethod y wlad yn teithio yn niwyg marchog, gyda'r cleddyf ar y glun?" holai'r brawd Cyrille mewn syndod.

"Peth pur anghyffredin ydyw hyn, fy mharchedig," atebai'r llances yn wylaidd; "ond deddf galed ydyw rhaid yr amseroedd."

"Ac i ble 'rydych chwi'n mynd?" holai'r mynach.

"At frenin Ffrainc, fy nhad, ar neges."

A'r brawd Cyrille ar fedr gofyn ychwaneg o gwestiynau iddi, dynesodd un o'r marchogion a ganlynai'r ferch ifanc, gŵr a ymddangosai wrth ei oed yn ogystal a'i wisg yn bwysicach na'r lleill.

"Byddwch yn fwy gofalus, Jeanne," ebr ef yn fywiog, "mwy na digon o beth yw bod neb eisys wedi'ch adnabod chwi; ac os ewch chwi i ddweyd eich bwriadau wrth bawb, fe gaeir y ffordd yn ein herbyn ni cyn wired a dim."

"Peidiwch a phoeni, Meistr Jean de Metz," atebai'r ferch ifanc yn dawel; "gallwn edrych ar y rhein fel Ffrancwyr da."

"Erfyniwch arnynt anghofio ddarfod iddynt gyfarfod â chwi, ac anghofio'r pethau a grybwyllasoch wrthynt, oblegid ar dewi y dibynna llwyddiant."

"Ar y Meistr Mawr yn unig y dibynna llwyddiant," ebe Jeanne yn dyner; "ond ymdawelwch, yr wyf fi'n sicr y bydd i'r parchedig a'r llanc ifanc dewi."

Sicrhâi Remy a'r mynach hwynt y byddai iddynt fod yn ddoeth.