coed yn y buarth, cyn wired a mod i 'n fy ngalw fy hun yr arglwydd de Flavi."
Remy a'r tad Cyrille bron neidio wrth glywed yr enw hwn.
"De Flavi!" gwaeddai'r ddau gyda'i gilydd.
Edrychodd y llywodraethwr ym myw eu llygaid.
"Wel?" ebr ef.
"Cefnder yr arglwyddes de Varennes!" meddai'r mynach.
"Beth wedyn?" gofynnai de Flavi, a chraffu mwy.
Agorodd y tad Cyrille ei enau ar fedr llefaru, ond tawodd a sôn; yn unig troes ei lygaid yn ddiarwybod iddo'i hun oddiar y llywodraethwr at Remy.
Yr oedd yntau eisys wedi ei feddiannu ei hun.
"Beth ydyw ystyr y syndod yma wrth glywed f'enw i?" gwaeddai de Flavi, "a pham y soniwch chwi wrthyf fi am yr arglwyddes de Varennes? Ar f'enaid i, y mae'n y fan 'ma ryw driciau cythraul. Dowch yma, barchedig, ac os ydych chwi'n prisio cynnwys eich cwcwll, atebwch heb oedi ychwaneg."
Wrth lefaru'r geiriau hyn, trawodd llywodraethwr Tonnerre ei gwpan ar y bwrdd. Yr oedd Cyrille ar fedr ei ateb, ond crynodd a safodd yn sydyn—yr oedd newydd ganfod y tarw cerfiedig a ffurfiai glust y cwpan euraid.
Daeth tynghedfen Remy ar unwaith i'w gof; a'r darogan drwg a berthynai i arwydd y Tarw, ac nid amheuai fod y perigl hwnnw wedi eu goddiweddyd.
Synnwyd a chythruddwyd de Flavi gan ei ddistawrwydd sydyn, a dechreuodd ail ofyn ei gwestiynau yn wyllt; ond llwyr benderfynasai'r mynach wrthod iddo un eglurhad. Yr unig ateb a roddodd oedd ei fod yn mynd i Touraine, trwy ganiatad ei brior, ar fusnes olyniaeth; ac ni fedrodd ymdrechion de Flavi dynnu dim pellach na hynny ohono.