Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/54

Gwirwyd y dudalen hon

Wedi llwyr golli ei amynedd, parodd ddwyn y teithwyr yn ôl i garchar er mwyn eu crogi drannoeth fel ysbïwyr collfarnedig.

Ar y cyntaf fel bygythiad y cymerai'r tad Cyrille y gorchymyn hwn; ond cryfhaodd ei anesmwythder pan glôdd y ceidwad hwy ar eu dychweliad mewn celloedd ar wahan. Gofynnodd am gael siarad drachefn â'r llywodraethwr, ond atebwyd ef fod hwnnw newydd adael Tonnerre yn arwain cwmni arfog, a'i fod i gyniwair y wlad gyda'r rheiny am lawer o ddyddiau. Megis rhwng cromfachau, ychwanegodd ceidwad y carchar fod y meistr Richard, un o saethyddion yr arglwydd de Flavi, wedi cael gorchymyn i beidio ag anghofio'r carcharorion, ac y byddai yno gyda chyffesydd ar doriad y dydd.

O hyn allan nid oedd lle i amheuaeth; credasai'r tad Cyrille mai peth doeth oedd celu'r gwir, ac yr oedd y distawrwydd hwnnw wedi costio iddo golli ei fywyd ei hun yn ogystal â bywyd Remy.

Dygai'r meddwl hwn fath ar syfrdandod arno. Iddo'i hun gallasai heb ormod tristwch dderbyn yr ergyd annisgwyliadwy hon. Trwy gydol y trychinebau a fuasai ers cynifer o flynyddoedd yn blino Ffrainc, rhedasai cymaint o waed nes cynefino pawb â'r syniad o farw dan orthrech. Wrth arfer gweled ei gyfeillion yn cwympo cynefinai dyn â disgwyl ei farwolaeth ei hun; ond sut y gallai fodloni ar hyn yn gyfran i'r plentyn a gymerasai dan ei adain, y plentyn y rhagwelsai iddo dynged hir a dedwydd. Ni allai'r brawd Cyrille ddygymod â'r syniad o fedi cymaint o obeithion yn eu blodau; ffyrnigai a chwynai bob yn ail. Gweddïai ar Dduw gydag angerddoldeb, neu ail âi dros y ffortiwn a gyfrifasai i Remy; a phara'n elyniaethus yr oedd y Tarw, a Mawrth a'r Forwyn yn para i addo eu dylanwad ffafriol. Ond, er ei waethaf,