Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/62

Gwirwyd y dudalen hon

"Ped enillai hynny baradwys i mi, ni fedrwn fynd un cam ymhellach," ebr ef yn wan ei lais, "gad fi yma, fy mab, . . . . a dos ymlaen hebof fi."

"Yn enw Duw, fy nhad, un ymdrech eto," meddai Remy, "dichon y cyrhaeddwn o leiaf ryw gaban lle y gallwn gynneu mymryn o dân. Yma yr ydych heb gysgod. . . . . Fy nhad, 'rydw i 'n crefu arnoch chwi."

Mwmian annealladwy oedd unig ateb y tad Cyrille; yr oedd ei amrannau wedi cau, wedi fferru yn yr oerni, a'i aelodau, wedi trymhau gan flinder, yn methu symud. Parhâi Remy i erfyn dros ysbaid, ond yn gwbl ofer—yr oedd ei gydymaith wedi cysgu!

Yn ei ddychryn, rhedodd tua'r briffordd dan waeddi'n uchel ei lef, a chwilio â'i lygaid ynghanol y nos a'u daliasai bellach, am ryw fwg a roddai obaith iddo fod swcwr gerllaw. Wedi hir dremio'n ofer, credai ei fod yn gweld ymhellach draw ar ochr y ffordd adail na fedrai'n glir weld ei ffurf, ond a ymddangosai'n bwysig ac uchel. Heb ameu nad tŷ ydoedd hwn, dychwelodd at y brawd Cyrille, cododd ef yn ei freichiau a dechreuodd trwy fawr ymdrech ymlusgo yng nghyfeiriad y cysgod y cawsai gipolwg arno.

Y mynach yntau yn hanner effro a ymsythai ar ei draed ac a ddechreuai gerdded fel peiriant. O'r diwedd cyrhaeddodd y ddau at yr adeilad yr ymgodai'i ddelw aneglur yn y tywyllwch. Cododd Remy ei olwg . . . . crocbren llys senesgal[1] y rhanbarth oedd yno, ac arno crogai corff y troseddwr diweddaf a gawsai ei ddienyddio!

Parodd y siomiant hwn iddo dorri'i galon yn lân loyw. Wedi tremio o'i ddeutu o'r newydd heb fedru canfod dim ond tywyll affwys y nos a'r coed yn dyrchafu eu canghennau ceimion yn ei chanol fel rhithiau alaeth, eisteddodd wrth ochr y tad Cyrille, gosododd ei ben yn un o blygion mantell

  1. nodyn 22