i'r porth, safai tri gŵr a adnabuwyd yn union oddiwrth eu gwisgoedd a'u lliwiau fel saethyddion yr arglwydd de Flavi. Ymddiddanai'r tri'n ofnus ac ymhell oddiwrth y ddewines; ond o'r diwedd dyma un ohonynt yn ymgaledu: wedi cymryd cam ymlaen câi ei hun yn y rhan a oleuid gan y lamp, ac felly daeth ei wyneb, a oedd yn y cysgod o'r blaen, yn sydyn i'r goleu, ac adnabu Remy Exaudi Nos.
Er ei fod yn siarad â'r hen wrach â'i ddigywilydd-dra arferol, eto yr oedd yn ei ddigywilydd-dra elfen o anesmwythder amlwg.
"Felly, wedi dod i geisio crys sŵyn[1] yr wyt ti i gadw dy groen rhag clwyfau?" ebr brenhines Neuville, yn amlwg fel ateb i gais a wnaethai'r saethydd cyn hynny.
"Ie," ebr yntau, ac yn methu'n lân a thynnu ei olwg oddiar y llyffant yn y fantell sidan; "crys a'm ceidw rhag ergydion drwg a hefyd rhag swyngyfaredd."
"A pha beth a fyn dy gymdeithion?" holai'r ddewines.
"Am danaf fi," ebr un o'r milwyr a arhosai yn y cysgod, saethydd ar farch, fel y dangosai ei wisg, "fe garwn i gael tipyn o'r powdwr sŵyn hwnnw yr ydych chwi'n ei wneud o gath wedi'i blingo, llyffant, cenau goeg ac asp."
"A minnau," ebr y trydydd, a ddygai wayw marchog ysgafn, "fe garwn i gael gwybod y geiriau y mae'n rhaid eu dweyd pan fynno dyn dalu refugâ pecuniâ,[2] sef y modd i gael yr arian a delir yn eu hôl ohonynt eu hunain i'r pwrs."
"A dyna'r cwbwl?" gofynnai brenhines Neuville, â'i threm drachefn ar Exaudi Nos.
"Onid ydyw hyn yn ddigon?" ebr yntau, mewn tipyn bach o benbleth.
Trawodd y ddewines y crochan mawr â'i gwialen haearn.