Gwirwyd y dudalen hon
Vach, Vech, Stest, Sty, Stu. Wrth y gri hon codai oernadau o'r ystafelloedd oddiamgylch, neidiai'r llyffant a'r crib llachar dan y belen wydr, a chodai rhai nadroedd eu pennau o un o'r llestri y cyffyrddai'r ddewines â hwynt.
Ciliasai Exaudi Nos a'i gymdeithion mewn ofn hyd at y porth; ond yn sydyn safodd brenhines Neuville ar ei chylch o flaen yr ogof lle yr oedd y tad Cyrille a Remy wedi eu cau, a llefodd:
"Da iawn, Mysoch,[1] dyma hwy yma."
"Pwy yma?" holai'r saethydd; yng nghanol ei ddychryn nid anghofiasai ef amcan y witsio.
Yn ateb i'w gwestiwn, agorodd brenhines Neuville ddrws yr ogof, a gwelai'r tri milwr y mynach a'r llanc yn sefyll wrth y trothwy.
- ↑ nodyn 26