Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

"Clotilde Sant! Ti sydd heb blentyn ym Mharadwys, cymer fy un i dan dy ofal pan na bwyf fi wrth law, yma'n awr, yn rhywle arall, ac ymhobman."

Peidiodd, a gwrandawodd fel pedfai'n disgwyl ateb i'r math hwn o apêl. Yn ebrwydd clywid llais cryf ac ifanc yn myned ymlaen:

"Clotilde Sant! Yr wyf yn rhoddi fy machgen yn fychan i ti i wneuthur dyn ohono, yn wan i ti i roddi cryfder iddo. Cymer oddiarnaf fi dri o'm dyddiau ac ychwanega iddo ef ddeg, cymer fy holl lawenydd i, a dyro iddo ef y can cymaint!"

Cododd yr arglwyddes de Varennes ei llef, estynnodd ei dwylo, a disgynnodd ar ei gliniau.

"Y mae o 'n medru'r weddi!" meddai yn ei dagrau. "Efo ydyw . . . . Fy mab."

"Fy mam," atebai'r llais.

A dyma wthio'r llen o'r neilltu'n ddiseremoni, a Remy yn dod i'r golwg ac yn ei daflu ei hun i freichiau'r weddw.

Ni ellir disgrifio golygfa fel hon. Am ysbaid hir ni cheid dim ond beichio wylo, cyfnewid enwau ac ymgofleidio mewn boddfa o ddagrau. Yr oedd aelodau'r cyngor dan deimlad dwys; gweddïai ac wylai Jeanne; a'r tad Cyrille, yn wallgof o lawenydd, a redai oddeutu'r neuadd dan waeddi:

"Mi wyddwn i o'r goreu; 'roedd y dynghedfen wedi dweyd. Y Tarw yn erlid . . . . Y Forwyn a Mawrth yn swcro. Y Forwyn a Mawrth, dyna Jeanne, Jeanne bur a rhyfelgar, sicut erat Pallas[1]. Ac yn awr, achubed Duw Ffrainc, dyma fi wedi achub fy mugail bach."

  1. nodyn 30