NODIADAU
1 GWALLGOFRWYDD SIARL VI: Wedi bod am flynyddoedd yn frenin dan oed, cydiodd Siarl VI yn afwynau llywodraeth Ffrainc yn 1388. Ond yn lle cyfeirio ei egni i wella cyflwr ei wlad, ymollyngodd i bob rhysedd a moethusrwydd; llygrodd hynny ei gymeriad a gwanhaodd ei gorff a'i feddwl. Yn nyddiau poethaf haf 1392, marchogai gyda byddin yn erbyn duc Llydaw. Aeth un o'i weision i hepian ar ei farch, a gollyngodd ei wayw o'i law; cwympodd honno ar draws helm ddur milwr arall nes peri cryn drwst; dychrynodd y brenin a thybiodd fod rhywun yn ymosod arno. Rhuthrodd ar y sawl oedd nesaf ato dan lefain "Lleddwch y bradwyr." Lladdodd rai o'i ganlynwyr ac archollodd amryw eraill cyn iddynt allu ei luddias a'i rwymo. Yr oedd yn wallgof; ac er iddo wella dros amser, deuai ysbeidiau gwallgof arno hyd y diwedd. Dyna un o achosion anffodion dirfawr Ffrainc yn y cyfnod hwn.
2 ARMAENIACIAID: Les Armagnacs, canlynwyr y Comte d'Armagnac, arweinydd y blaid genedlaethol yn erbyn y Saeson a'r Bwrgwyniaid. Wedi i'r brenin golli ei synhwyrau, ceisiodd duc Bwrgwyn, Jean sans Peur, fel ei gelwid, gydio yn y llywodraeth, ac i wneuthur hynny llofruddiodd frawd y brenin, sef y duc d'Orleans. Dewisodd canlynwyr yr olaf ymuno dan y Comte d'Armagnac i ddial gwaed eu harglwydd ar y Bwrgwyniaid, a chydnabod mab y brenin gwallgof yn etifedd y goron. Lladdwyd Jean sans Peur ar bont Montereau, a daeth ei fab, Philip Dda—Philippe le Bon—yn dduc Bwrgwyn; dyma'r "duc Philippe" yn y stori. Gwnaeth