Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cododd Dafi Dafis, diacon hynaf yr eglwys, o'i sedd yn ymyl y pregethwr, a chan bwyso ar ei ffon, a symud ei dafod yn ddibaid drwy ei enau gwag,—fel baban cyn cael ei ddaned, edrychodd yn ofalus ar y wynebau o'i flaen. Wedi munud o anesmwythyd i lawer calon, galwodd, John Ifans, ddewch chi mlân, machgen i, i ddachre'r cwrdd?"

Gwridock John yn ysgafn, a phetrusodd am ennyd, ond ufuddhaodd. Un o fechgyn ieuainc mwyaf addawol yr eglwys oedd John Ifans, ac ynddo elfennau amlwg diacon. Yr oedd ei d'ad, Morgan Ifans, Maesyryn, un o ffermwyr cryfaf yr ardal, yn ddiacon er's blynyddau. Teimlai yr. hen Ddafi Dafis faich ei lywyddiaeth o'r cyfarfod lawer yn ysgafnach wedi cael John i ddechreu'r cwrdd, heno pan oedd y gweinidog newydd yn bresennol. Gellid bod yn sicr yr ai John drwy ei ran yn syml a deheuig, heb ddarllen pennod ry faith neu ry amhwrpasol, ac heb ddywedyd pethau rhy ryfedd ar weddi. Gwrandawai ei fam ar John mewn agwedd foddhaus, gan symud ei chorff tal mewn mwynhad addolgar. Ceisiai Leisa ei chwaer ddarganfod effaith ei leferydd ar y gweinidog, ond yn ystod y weddi a'r darllen, ni chafodd y pleser o weled hwnnw unwaith yn codi ei olygon. Er na wasgai ei lygaid a'i law fel ar y dechreu, yr oedd yn dra gofalus i'w cadw yng nghau.

Wedi i John Ifans orffen, cododd Dafi Dafis drachefn. Symudodd ei dafod yn brysur fel o'r blaen cyn galw yn araf â llais crynedig,

"Sam Griffi, ddewch chi mlân i find a'r cwrdd ymhellach."

Eisteddai Sam yn ei agwedd gysurus arferol, ei ddwy fraich wedi eu gosod ar ymyl y sedd o'i flaen yn obennydd i'w ben. Hanner ymuniawnodd ar yr alwad, ac atebodd yn groew â llais bychan main,

"Fies i nos Lîn dwetha."

"Ddewch chi mlân, Daniel Jones?" ebe Dafi Dafis eto. Cododd Daniel o'i fangre, a symudodd yn araf ymlaen, ei wyneb diwên a'i holl osgo yn ddarlun o'r hunan-ymostyngiad a'r edifeirwch dwysaf, a'i ddwylaw aflonydd fel pe'n hiraethu am y rhaw gyfarwydd i afael ynddi. Safodd wrth risiau'r pwlpud, heb ryfygu mynd hyd at y bwrdd, a chan