Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanner bwyso ar fraich y grisiau tra'i holl gorff yn ym. wingo'n barhaus, rhoddodd allan o'i gof, mewn llais dwfn, tawel, ei emyn,—

"Treuliwyd blwyddyn ar ol blwyddyn,
Roddwyd in' gan Frenin nef,
'Cawsom eto ddechreu blwyddyn
O'i ddaioni rhyfedd ef;
Uwchben llawer un eleni
Oedd y llynedd yn dra llon;
Gellir heddyw ysgrifennu
Byddi farw'r flwyddyn hon.

Hedeg wna fy oriau innau
A'm blynyddau oll i gyd,
Brysio'r ydwyf tuag adre
I drigfannau bythol fyd;
Mae fy amser yn mynd heibio,
Rhaid im' ado daear gron,
Gallai mod i'n un o'r werin
A fydd marw'r flwyddyn hon."

Ni chaed y geiriau yn y llyfr emynau, er troi dail lawer gan Tomos Tomos, yr arweinydd canu. Felly cyn anturio arno, sibrydodd Tomos yn hyglyw,—

"Well i chi roi e mas bob yn ddwi lein." Yna, o nerth i nerth, canwyd y ddau bennill ar y dôn Alecsander. Siglai'r hen eu pennau'n fyfyrgar gan ddifrifoled y geiriau a phrudled y dôn, a gwenai'r ieuainc yn llon gan mor ddigrif y sefyllfa.

Gweddi ddwys fel ei wedd oedd gan Daniel Jones. Llawer mwy hyderus oedd efe wrth siarad â'i Dduw nag â'i gydddynion. Yn gymysg â'i erfyniadau taer, cyffesai o hyd derfynau cyfyng ei wybodaeth am y pethau uchaf. "Dina fel i ni'n diall, Arglwydd; dina fel i ni'n câl yn Di air Di," meddai unwaith a thrachefn wrth gyflwyno ei achos i sylw'r nef. Eithr er mor bŵl ei oleuni, ac er mor ddieithr iddo oedd y dirgelion, yr oedd rhyw dawelwch cartrefol bob amser yn niwedd ei weddi. "Hwre ni nawr i Dy law wedi madde'n holl gamwedde, yn heiddiant Di annwyl Fab., Amen."