Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

torri pob hualau, a bod yn berffaith rydd. Beth yn fwy gogoneddus nag esgyn ac esgyn yn y byd uchaf,—bod yn athrylith ysbrydol, yn un o fawrion y nef! Pa oruchafiaeth debig i honno ar fyd, cnawd, a diafol? Pa dangnefedd i'w gymharu ag eiddo'r enaid fyddo mewn perffaith gymundeb a'i Dduw?

Ym maes newydd Owen Elis nid oes neb a wyr am gymaint ag enw Gwen Alun. Ond bernir yno'n gyffredin mai rhyw siom ym mlynyddoedd ei ieuenctid a wynnodd ei wallt mor gynnar ac a bair iddo fyw mor ddidoledig oddiwrth y byd a'i bethau. Tosturia llawer wrtho am na wel werth ym mhleserau a mwyniannau daear; gwel rhai ogoniant llachar ei gymeriad; a yntau ymlaen yn siriol dangnefeddus ar hyd ei lwybr unig, a goleu o'r nef ar ei wyneb. Proffwyda rhan iddo ddyfodol mwy rhyfedd fyth.