Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ystormydd ei gaeaf a hyfrydwch ei haf, felused meddwl mai Tad tyner oedd yn danfon y cwbl, a bod Ei ofal Ef dros bob un a'i nerth at bob rhaid. Wedi eu cyflwyno drachefn mewn gweddi, aeth y gynull— eidfa fechan bob un i'w dy, pob un i ddechreu byw ei flwyddyn.

II.

Ah! must—
Designer infinite!—
Ah! must Thou char the wood ere Thou canst
limn with it?

 —FRANCIS THOMPSON.

AM fwy nag ugain mlynedd buasai Catrin Lewis yn forwyn yn Y Mwyndir, gyda'r hen Sion ac Ester Bŵen. Morwyn ddistaw, ddiwyd, ffyddlon fu hi, yn gweini, nid à llygad—wasanaeth, ond megis i'r Arglwydd. Ryw noson yn ystod yr amser hwnnw, torrodd tân allan yn ystafell wely unig ferch y teulu, a bu Catrin yn ddigon dewr i ruthro drwy'r flamau i achub y fechan. Wedi'r cyfan, bu farw'r eneth dan effeithiau'r tân a'r braw, a bu agos i Catrin golli ei bywyd hefyd. Cariodd olion ei haberth ar ei dwylaw. ac ar ei hwyneb tra fu byw.

Fel cydnabyddiaeth am ei harwriaeth, rhoddodd ei meistr iddi ugain punt, gan ddywedyd yn dyner yr haeddai fwy, ac y cai fwy hefyd ar ryw adeg fwy cyfleus yn y dyfodol. Yng ngrym yr ugain punt hynny, ynghyd â'u hychydi; enillion ereill, mentrodd Griffi Elis a Chatrin Lewis ymbriodi, ac aethant i fyw i Foelygaer,—tyddyn bychan llwm ymhen ucha'r Sir. Yno y ganwyd iddynt eu hunig blentyn at phlentyn eu henoed—Owen Elis.

Daeth morwyn arall i'r Mwyndir, yr hon nid adwaenai mo Catrin. A phan bu farw Ester, ac ymhen blynyddau, yr hen Sion ei hun, prin y synnodd Catrin weled na chofiasai'r