Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi isteddith ma am orie a'i dwilo'n segir. Nid am nad all i wei cistel a finne,—wn i'm beth nad all i neid, ma rhwbeth yn lew iawn yndi."

"Ma'i'n hala pwer o'i hamser i ddarllen i'r hen ŵr. Ma'i liged e'n wannedd, a mi eith Gwen drw'r dwr a'r tân drosto fe. Ma golwg da'r ddoi ar i gili," ebe Nani. "Wirione, all gamol i bîd tê," ebe Anna Evans. bwer gwell arni nag ar ferched ffermidd. Do's da rheinco ddim amser i ddrichid ar lifir o fore di Llin hid nos Sadwm. Ond camstâc mawr we dod a'r groten o wrth i theili. Beth neithe i mwi se i'n colli 'thacî. Mai fan na da ge os whech mline, ymhell o'i chatre, yn gneid i hinan yn hanner ladi

Fidd i mham vn falio fawr i chal i nol mwi, a hithe fel na mond hanner whar i'r plant erill. Pwi we i thad' wn i? Enw i mham si arni hi welwch chi."

Chas neb wbod, chi. Ichel iawn we'i mham ariod. Ichel iawn iw Dafi Alun i hinan. Ond ta pwi wedd e, wedd e'n rhiwin pwisig o rwle, ma Gwen yn ladi bob mod— fedd o honi. Chas i 'mo'r ladieiddiwch na i gid o wrth i mham." ebe Sali.

"Lodes neis iw i no, ladi ne beido," ebe Nani.

"Ma Nani a hithe'n citino i'r dim, welwch chi, Fe a'i darllen a'i hwnco. Da nhwi ma'r amser ochodin. ddarllen y losgron hefid fel ffeirad," ebe Sali.

"Wirione," ebe Anna Ifans, "eith ymlân na'r gweinidog gwlei, os na ofalith e. Sdim rhiw leferidd mowr da ge clo. Wi'n leice din a thipin o ddawn da ge, ond hwnna geison ni ochodin. Rhaid i ni shawnso ag e mwi am spel gwlei. Hawir annwl! mai e'n gloff. We Morgan yn gweid yn i wir e na silwodd e ariod fod e cindrwg ag wedd e neithwr. Wedd e'n ombeidis chi! Falla bod yr altrad tewi ma'n i neid e'n wâth."

"Wir, fe wedodd yn neis iawn neithwr no," ebe Sali, gan dynnu ei chadach poced allan, a'i gadw yn ei blyg parchus, a'i dynnu'n ysgafn dros ei gwefusau. "Na bert wedd e'n son am sgrifenni'n lân ac eglir. Weles Miss Martin lawer gwaith yn sgrifenni llithir da'r nos ma. Wedd i llaw i'n simid fel licheden ar y papir, ond we'r cwbwl mor streit a mor lân! Rhwbeth fel ni own i'n ddichmigi am flwiddin wedi i biw yn iawn."