Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Fidd ise gwraig arno nawr cin bo hir," ebe Nani. "Taw son, Nani. Gad i'r din gal i anal. On'd iw i fedrib da ge?"

Wel, nenw din, wit ti'm yn disgwl arno fiw heb wraig se'ch bod i fodrib da ge? Beth, falle ceith hithe ŵr ffor hin. Se tithe a finne'n mind i riw gwmdogeth newi, falle coden ninne bobo wr, pwi wir?"

Chwarddodd Mrs. Ifans, a dywedodd Sali mewn tôn geryddol, ddifrifol,—

"Taw son, da tithe. Cofia mor agos i'r bedd wit ti a finne. Mai'n brid i ti adel di ddwli nawr."

Rhai o deili digon ciffredin in nhw, i chi'n gweld, ebe Mrs. Ifans. Morwm da rhiw ddoctor sha Maesyrhaf na fiodd hi, Miss Elis, am flinicle. Bachgen tlawd iw inte, er na wedodd e ariod fowr am i'bobol. Mai'n newid mowr iddi hi gal dod yn wraig fenheddig fan na nawr. Ma nw'n gweid bod i'n bleser bita bwid o'i llaw i, a bod y ti ishws yn dangos trefen."

Mi weles i scap arni Di Sil. Mai mor dene a scithan," ebe Nani.

"Ma hi wedi disgi gneid pethe'n iawn welwch chi," ebe Sali. "Fel ni own inne da Miss Martin. Cheise pethe 'm i gneid riwshap a rwffordd 'no.—we raid iddin nw fod yn iawn; a wedd i waith neilltiol i bob diwarnod, nid rhiw lisgo pethe ddile gal i gneid Di Llîn ymlân i Di Gwener, a dwmbwr dambar fel ni.

Fflachiodd Nani edrychiad direidus ar Mrs. Ifans, gan wau o hyd yn ddistaw, tra'r adgofiai Sali ogoniant ei gorffennol.

Riwshap a riwffordd iw i da ni ar y ffermidd ma'n firich no. We chi'n cal ych amser i gid i lanhai'r ti, pwi ddiolch iddo fod yn lân wedin? a phwi ddiolch i bopeth fod yn drenfis? In ni 'n gorffod golchi'r llawr ar slei co; ma'r gwrwod co'n meddwl taw gwaith dibroffit iawn iw glanhai'r ti, a ma Morgan yn mofin in o'r rhocesi mas yn rownd, shifted y ti fel shiffto fe. Ma'r rhocesi'n gorffod slafo lawer mwi na'r gwrwod wath gen i pwi a'i gwir e. Slafdod iw ffarmo nawr, mroi'n galed o fore stoi'n nos i grinhoi a chrinhoi i'r mistir tir a'r ffeirad, a phrin cal bŵid a dillad yn hinen. Fe geith y Bwms dod leni to cin talir dime