Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ient yn galed o wawr i hwyr; boddlonent ar yr ymborth symlaf; anaml ac ychydig oedd eu dyddiau o bleser; eto yn y ffeiriau a'r marchnadoedd nid oedd neb yn awyddus iawn am eu nwyddau. Byddai raid iddynt foddloni cadw eu.hanifeiliaid neu dderbyn prisiau isel iawn am danynt.

Ac ar ddiwedd y flwyddyn, yn hanes llawer iawn o honynt, byddai deupen y llinyn ymhell o fod ynghyd.

Yn eu cyfyngder, gyrrwyd hwy i edrych yn fanylach i bethau, ac i dderbyn yr hyn ystyrient yn anghyfiawnderau yn llai tawel a dirwgnach. Gofynasant i offeiriad y plwyf (nid Mr. Puw'r bennod ddiweddaf) gan nad ystyrient eu hunain yn ei ddyled, foddloni ar lai nag arfer o ddegwm. Ffromodd hwnnw'n aruthr, a hawliodd lawn fesur.

Cododd yr amaethwyr mewn gwrthryfel, a gwrthodasant dalu dim. Ymhen amser, gwelodd yr awdurdodau eglwysig os na cheid yr arian trwy deg fod yn rhaid eu cael trwy drais, a daeth swn rhyfel, a seiniau aflafar anghydfod i aflonyddu ar dawelwch y wlad.

Un dydd Llun, a'r Parch. Owen Elis a'i fodryb wrth eu bwrdd ciniaw, clywyd curiad ar y drws. Aeth y gweinidog ei hun i'w agor. Dau foneddwr trwsiadus oedd yno yn gofyn am gael eu cyfeirio i Faesyryn, os gwelai yn dda. Gwyddent fod y lle rywle yn y cyffiniau, ond nid oeddent yn siwr pa un o'r ffermydd oedd.

Aeth Owen Elis—a'i feddyliau yn brysur—allan gyda hwy at yr iet. Dywedodd wrthynt am fynd i lawr hyd y groesffordd, troi oddiyno ar y dde, a mynd ymlaen nes dod at y pentref, a gofyn i rywun yno ddangos iddynt y lon a arweiniai tua'r fferm.

Daeth yn ol i'r tŷ yn frysiog, a daeth Miss Elis mor frysiog ag y gallai i lawr o'r llofft, o'r lle y buasai yn cael llawn olwg ar y dieithriaid fel yr aent oddiwrth y ti.

"Beth we rheina, te, chi?" ebe hi.

"'Rwy'n credu'n siwr taw beiliaid y. Degwm yn'nw," ebe Owen Elis, gan gydio yn ei het. "Ma son bod nw wedi bod mewn rhai ardaloedd, a ma nw'n dechre yma. Fe gymer hanner awr dda iddyn nw fynd drw'r ffordd. Mi af fi yno nawr drw'r caeau i ddweyd wrth Ifans bod nw'n dod. Falle leicse fe gloi'r iete."

Cyflogasai'r ddwy blaid,—y ffermwyr a'r offeiriaid,—bob.