Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweinidog. Aeth allan yn siriol i'r gegin a'r tegell yn ei llaw.

"Shwt i chi, Mr. Elis?" ebe hi, yn llon a gwylaidd, gan hongian y tegell uwchben y tân.

Cyn pen ychydig funudau clywyd swn rhywun yn rhedeg at y tŷ. Yr oedd gan Ann, Maesyryn, stôr o hen rigymau ar ei chof. Adroddai un bryd y mynnai, a neb ond ei hunan. yn gwybod pa gysylltiad oedd rhwng y rhigwm ac amgylchiadau'r funud. Daeth i'r tŷ yn awr yn ddiseremoni, gan ddweyd yn ddifrifol ddigon,—

"Ilbin Shon Alban a redodd yn chwirn, Ddaliodd wahadden gerfidd i girn; Redodd yn inion, dododd hi lawr, Wedodd wrth Alban, mi lladda hi nawr."

Mam, ma'r ddoi ddîn da nhad a Fred fan na, yn Parc yr Ardd, yn drichid ar y da.

Bryd hwnnw y cofiodd am bresenoldeb y gweinidog. Edrychodd i'w gyfeiriad gan wenu, a dywedodd:—

Alle nhad fod' wedi cloi'n brion, Mr. Elis, se fe'n dewis. Roisoch chi ddigon o amser iddo. Ond we'r dinion fan ni yn y tro pan doith e a Fred at yr iet, a wedd e'm yn leico. cloi fan ni o flân i lliged nw."

"Wel, wirione," llefai Mrs. Ifans. "Na nawr, fe werthan e'n da ni a'n cwbwl ni, a fidd e'n leico hinni, wn i?" ac aeth allan i weld beth ddigwyddai.

Ni fynnai Mr. Elis fynd allan i gael ei weld gan y dieithriaid, felly eisteddodd yng nghwmni Ann yn y tŷ. Clywid swn Leisa'n symud ar y llofft uwch eu pen. Aethai John y mab oddicartref er y bore.

Merch tua dwy ar hugain oed oedd Ann. Hi oedd yr ieuengaf o'r teulu. Dwy flwydd yn hŷn na hi oedd Leisa, a John tua dwy flwydd yn hŷn na hithau. Meddai Ann y swyn prin o naturioldeb. Nid oedd unrhyw dlysni anghyffredin yn ei gwedd. Cawsai awel Ebrill ryddid i chwarae a'i gwallt, ac yr oedd lliw ei haul ar ei breichiau neoth. oedd ei llygaid glas yn onest ac agored, heb ormodedd dyfnder ynddynt, ond yn llawn chwerthin hapus. Yr oedd bod yn ei chwmni fel eistedd mewn cae lle tyf porfa lâs Mehefin a'r blodau gwylltion amryliw heb ofyn sylw na diolch neb.