Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd cwpan ei dedwyddwch yn llawn, oherwydd onid oedd Josi'r Mwyndir a hithau wedi ymdynghedu i fod yn ŵr a gwraig cyn diwedd y flwyddyn?

Ni ddywedwyd gan Mr. Elis a hithau ddim digon pwysig i'w groniclo, a buan daeth Leisa i lawr o'r llofft wedi rhoddi heibio ei dillad gwaith, ac o'i blaen ffedog fechan wen yn lle'r ffedog sach. Yr oedd ei gwallt crych wedi ei drefnu'n dlws; yr oedd gwrid' ysgafn ar ei grudd, a'i haeliau trymion bron yn cuddio ei. llygaid. Rhyw edrychiad llechwraidd yn awr ac eilwaith daflai at Mr. Elis, ac yr oedd pob edrychiad a phob osgo o'i heiddo wrth osod y ford fach gron yn barod' erbyn tê,—fel yn mynegu rhyw bryder a gobaith am ba argraff a roddai ar y llygaid a'i gwyliai.

Pan ddychwelodd Morgan ac Anna Ifans i'r tŷ, yr oedd olion y giniaw wedi eu symud, a'r cwpanaid tê cysurus yn barod.

"Na'r diolch i chi'n gal, Mr. Elis, am ffwdani rhedeg drwa! Yn lle cloi fel gallse fe neid yn brion, towli'r tshaen o'i law nath e os gwelwch chi'n dda, a hagor y iet, felse fe'n i croesawi nw i find a'i eiddo fe i gyd," galarai Mrs. Ifans.

Dyna nês i ochodin, dwl ne beido," ebe Morgan Ifans. "Ie, a dina nw wedi streino ar 'n biwch ore ni! Fidd aeshon ma nawr, a'r dyrfa a'r ffwdan! Fise'n well i chi fod wedi tali'r hen ddegwm—fe goste lai. Cimrwch, Mr. Elis, gnewch gore galloch chi, fel mai e da ni. Leisa, torr ragor o fara menin. Fe limprith di dad hin 'mhen fowr o dro."

"Diolch yn fawr, Mrs. Ifans. Pwy oedd y ddau ddyn, Ifans?" gofynnai'r gweinidog.

"y Beili,—Lewis wrth i enw, mae'n debig, a Jones y Cifreithwr we'r llall."

"Ofynson i chi dalu heddyw?'

"Do, do. Fe widden yn brion beth we ni'n neid wrth yr iet hefyd. Wetson i nheges. Fise'n dda da nw os talwn i, ond os na, wedd e'n streino. Gwrthod nês i'n bendant, ac fe welson y gwartheg fan ni'n pori, a dina fe, fe streinodd ar y fiwch benwen. Biwch dda iw i. Fise mwi yn y mhoced i taswn i'n tali. Pimp a wheigen o ddegwm si arna i, ma'r fiwch fach yn werth wth ne naw pint. Gorffed i fi i seino