Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau yn rhy brysur i'w alluogi i gymeryd rhan helaeth yn yr ymddiddan. Tremiai i'w galon ei hun. Mor barod oedd i roi pwys ar bethau'r byd hwn a chefnogi ereill i wneud yr un peth! Beth oedd yn werth myned i'r fath helbul a ffwdan yn ei gylch? Beth ond y peth mawr? Ni ddylasai ef fod' wedi cymeryd cymaint o ddiddordeb mewn pethau mor faterol, nes rhedeg yn ei wylltineb draws y caeau i'w rhybuddio fel y gwnaethai. Ai nid ei waith ef oedd cyfeirio meddyliau pobl at fyd y sylweddau? Ie, a rhodio yn eu mysg fel un yn gweled yr Anweledig, ac heb awydd gostwng ei olygon at bethau daear. Wedi dod i mewn i'r tŷ hwn heddyw, nid oedd wedi son gair ond am bethau byd ac amser; —yr oedd wedi ymdroi gyda'r lleill ynghanol pethau di-urddas, ac wedi anghofio ei neges fawr.

Ac yn awr, hyd yn oed, ni allai gael gair allan am y pethau y teimlai y dylai siarad. Casaodd ei hun. Teimlodd ei fychander truenus. Wedi ychydig amser cododd i fynd adref.

Aeth Morgan ac Anna Ifans i'w hebrwng hyd ben y lôn. Safai Leisa ar y drws i'w gwylio'n cychwyn, a meddyliai rhyngddi a'i hun:

Na fachgen pert yw e on'bai fod e'n gloff! Ond do's neb yn berffeth, a alle neb weid fod dim arno pan iw e'n y pilpid'. Wedd e'n drichid digon, fid! A wedd e'n ddistaw iawn nawr cin mind oma. Pwi feddylie bore heddi bise fe ma yn ifed tê!"

Wrth droi'n ol i'r gegin agorodd ddrws y parlwr, lle'r oedd y drych mawr uwchben y tân, a chymerodd lawn olwg arni ei hun cyn tynnu'r ffedog wen ac ail-gydio mewn gwaith.