Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

datblygai Natur, yr oedd ei ysbryd yntau i ddatblygu i lawn ogoniant haf a ffrwythlondeb Hydref. O dymor hapus i ddyfod, wedi i'r anawsterau gael eu trechu o un i un! Cofiai am dano ei hun, pan yng ngwres ei ddeffroad cyntaf, fel yr hiraethasai am ei ryddhau oddiwrth yr hualau a geidw ieuenctyd yn rhwym wrth y ddaear. Llawer gwaith y dymunasai fod yn hanner cant oed, a chynhyrfiadau enaid ac ystormydd calon wedi eu tawelu am byth; i'r fath uchderau y gallai esgyn, a chymaint fedrai wneud o waith. awr, wele ef wedi ei arwain gan Ragluniaeth i'r cwrr bychan hwn o Gymru, lle ni chlywid cyffro bywyd ond o bell, lle nad oedd berigl i bleserau ei dynnu oddiar y llwybr, lle nad oedd unrhyw afael gref iawn o'r ddaear i'w gadw'n ol. Y fath drafferth gymerai Duw gydag ef! Pwy feiddiai ameu fod Duw'n sylwi ar yr unigolyn? Gallai ef ganfod eisoes y paham am bob tro yn ei yrfa ef.

Daeth ffermdy Llainddu i'r golwg. Yma yr oedd i alw gyntaf. Wrth neshau at y tŷ, daeth rhyw ofn ar ei ysbryd. Mor annigonol i'w waith mawr y teimai. Pedair ar hugain oed oedd, yr oedd y sawl y bwriadai ymweld â hwy wedi byw lawer yn hwy nag ef yn y byd. Anadledd ddymuniad ar Dduw am help i ddweyd rhywbeth a fyddai o les. rhywbeth a godai olwg pobl o'r ddaear. Gwaith cymharol hawdd oedd pregethu o'r pwlpud ar y Sul, y gamp oedd medru cydio'r gwirioneddau mawr wrth helyntion bywyd beunyddiol.

Yr oedd twrr o blant yn Llainddu. Bu rhai ohonynt mor ffodus a gweld y gweinidog yn dod o draw, a chlywodd yntau gyhoeddi ei ddyfodiad mewn lleisiau uchel ar draws y buarth, ac yna swn rhedeg gwyllt a chau drysau. Pan ddaeth ymlaen hyd at dai'r anifeiliaid, nid oedd neb i'w weled, ond o dan un o'r hen ddrysau anniben gwelai bum neu chwe phar o draed bychain, a thrwy'r agennau, gwelai lygaid bychain syn yn ei wylio.

Dvnesodd at y tŷ. Cawsai un o'r plant y presenoldeb meddwl i redeg i ddweyd wrth ei mam ei fod yn dod. Wrth guro'n hanner ofnus ar y drws, clywodd fwced yn disgyn yn drystiog ar y llawr cerrig, a llais blinedig yn dweyd,—

"O, taw son! Wirione! ma le iddo!"

Curodd y gweinidog drachefn, a gwnaeth Mari Pŵel ei hymddangosiad.