Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI.

Mae'r henwyr? Ai meirw rheini?
Hynaf oll heno wyf i.
 —GUTO'R GLYN.

DAETH Dafydd Alun i mewn yn araf, ac eisteddodd yn drwm ar ei gadair freichiau dderw, a chan bwyso ei ddwylaw ar ei ffon, edrychodd ar y gweinidog ieuanc, a dy wedodd,—

Ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto ei nerth sydd boen a blinder.' Rw i wedi gadael y mhedwar ugain a thair, Mr. Elis."

Edrychodd y dyn ieuanc ar yr hen ŵr yn ddistaw, a dywedodd, wedi ennyd o fyfyrdod,

"Mae rhyw air Saesneg yn dweyd fel hyn,—

'Let him not boast who puts his armour on,
Like him who puts it off, the battle won.'

Hyn yw ei ystyr,

"O, ma Daci'n diall Sisneg," ebe Gwen, gan wenu. Derbyniodd y gweinidog y ffaith yn ddistaw, a dywedodd, "Nawr wyf fi'n gwisgo'r arfau o ddifri, Dafydd Alun. Mae'r frwydr a'i helyntion, y blino a'r diffygio, i gyd yn f' aros i. Sut ych chi'n teimlo nawr wedi byw oes faith? Ydych chi'n foddlon myn'd oma?"

"Ma Rhagluniaeth yn garedig iawn wrthym ni'r hen bobol," ebe Dafydd Alun. "Mae'n mynd a ni ymaith mor raddol. Mae'r nerth yn mynd, y clyw, y perth'nase, a'r cyfeillion, rhai fu'n cydfyw a chyd-frwydro â ni; ma nw'n mynd o un i un, nes fod mwy o honom ni'r ochor draw nag sy'r ochor hyn, ac fod cystal da ninne fynd a pheido."

"Rw i da chi, Daci," ebe Gwen, gan sefyll yn ei ymyl a phwyso ei breichiau ar gefn ei gadair.

"Fuset tithe, merch i, 'n fwy rhydd hebddw i. Ffwdan wi i tithe nawr."

"O, Daci!"