Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bedwar o ebolion mawrion Ffynnonlas. Crynai Gwen gan ofn. Ni chymerai lawer am eu pasio, a rhedodd yn ol am ei heinioes i fwlch gerllaw, fel, os rhuthrent yn ffyrnig arni, y cai ffoi am ddiogelwch dros y glwyd. Gan ei swn hi yn rhedeg, brawychwyd yr ebolion. Dechreuasant redeg a gweryru, nes gwneud i galon Gwen guro'n waeth. Beth i'w wneud ni wyddai. Wedi aros am ychydig i orffen crynu, aeth allan o'r bwlch i ganol y lôn, a gwaeddodd "How! How! Whisht! Whisht! Cododd garreg, a thaflodd hi â holl nerth ei braich tuag atynt, ond disgynnodd honno'n ddiniwed ar ganol y cae gerllaw, ac ni wnaeth yr ebolion ond codi eu pennau ac edrych arni gan gnoi eu porfa flasus, fel pe yn gofyn," Beth yw dy helger di?" Caeau ŷd' oedd o bob tu i'r lôn, a phe y mentrai Gwen drwyddynt, nid oedd yn sicr y cai fwlch i ddod allan ar y gwaelod. A beth pe bai'r ebolion yn ei gweld, ac yn rhuthro dros y clawdd ar ei hol? Cofiai lawer son am bobl wedi eu niweidio. gan geffylau. Yr oedd golwg ffyrnig ofnadwy ar yr hen geffy! mwyaf. Yr oedd Gwen bron crio, ac yn dechreu meddwl y byddai raid iddi fynd yn ol i fferm yr Alltfawr i ofyn am gwmni rhywun, pan y clywodd swn traed o'r cyfeiriad hwnnw, ac y gwelodd Fred y Sais, gwas Maesyryn, yn dod i lawr drwy'r lôn gan chwibanu a'i ddwylaw yn ei boced. Yn ddiau, ni fu un ferch erioed yn falchach i weld bachgen nag oedd Gwen bryd hwnnw i weld y Sais.

"Nos da, Fred," ebe hi. "Ma ofan arna i baso'r hen geffile ma, a wi'n ffeili'n deg a chal da nw simid. Hen ebolion Ffynnonlas î'n nw. A halwch chi nw lawr o'ch blân?" Arhosodd Fred yn syn, a thynnodd ei gap, yn union fel y gwnaethai Mr. Elis wrth y bont,—yr unig ddau a wnaethai— hynny erioed ym myd Gwen. Certainly," ebe ef. "Are you-y-ti ofan hwy?" A chyda hanner yr ymdrechion a roisai Gwen i'r un pwrpas, gwnaeth i'r pedwar ebol dramwy'n heini tua chyfeiriad Ffynnonlas. Yna, daeth yn ol, a dywedodd,—

"Fi mind heibo ti chi, os chi ofan."

Dangosodd Gwen fod yn dda ganddi gael ei gwmni drwy fynd yn ddibetrus i gyd gerdded ag ef. Nid oedd erioed o'r blaen wedi cyfnewid gair ag ef, nac wedi ei weld yn agos. Yr oedd yn fachgen tâl, golygus, a thra hoew ei gerdd-