Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BUGAIL Y BRYN.


I.

Da gwyddost wrando gweddi—dy weision;
Dewisaist eu noddi;
A minnau wyf, o mynni,
Duw Iesu deg, dy was Di.

—GORONWY OWEN.

YR wythnos gyntaf o'r flwyddyn newydd oedd,—wythnos y "cwrdde gweddi bob nos," yn ardal Cwmgwynli. Ceid cynulleidfaoedd lliosog yn y cyrddau hyn. Deuai i'r capeli bychain—o bell drwy'r tywyllwch—ffermwyr cefnog, prysur, heblaw'r diaconiaid a'r geneuau cyhoeddus. Deuai eu gweision a'u morwynion, eu gwragedd a'u plant. Deuai'r crefftwr o'i weithdy a'r hen wraig o'i bwthyn. Dywedai un gwr craff am danynt eu bod yn debig iawn i'r oruchwyliaeth gyfarwydd honno ymhlith amaethwyr, sef "mofyn cwlwm." Wedi gorffen a'r cynhaeafau, eid bron bob dydd am wythnos gyfan i'r orsaf neu i lan y môr, a chludid oddi— yno lawer llwyth o lô a chwlwm, ac wedi trin hwnnw a'i roi dan dô, teimlid fod tân ar yr aelwyd am flwyddyn arall wedi ei sicrhau.

Yr oedd felly, ar y nos Lun gyntaf o'r flwyddyn 18——, oleu egwan yn pelydru o ffenestri capel Y Bryn, a chlywid swn araf—gerdded drwy'r heolydd lleidiog tuag yno. Daethai rhai o'r hen bobl yno yn gynnar â lanterni ac â ffyn, ac wedi gosod y rhai hyn yn ofalus o dan y sedd, eisteddent yn amyneddgar a defosiynol i ddisgwyl y lleill. Gwaith digon diddorol oedd eistedd yno a gwylio'r naill ar ol y llall yn dod i mewn,—fel yr anifeiliaid i'r arch;—pob.un â'i