AT Y DARLLENYDD.
WELE Fywgraffiad y diweddar Hybarch Ddr. Price wedi ei orphen. Ysgrifenwyd ef yn frysiog iawn, a hyny yn benaf am ei fod yn destyn cystadleuol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberhonddu yn y flwyddyn 1889. Yr oedd yn rhaid ei orphen erbyn dyddiad neillduol yn ol rheol Pwyllgor yr Eisteddfod. Oedasom yn hir cyn dechreu ar y gorchwyl, gan yr ofnem y buasai mawredd y gwaith a phrinder amser yn gwneyd ein hymgais yn ofer. Ysgrifenasom, nid yn gymmaint er mwyn y wobr, er ei bod yn 25 gini a bathodyn aur, ag i geisio rhoddi portread cyflawn o'r gwrthddrych, a chodi iddo golofn goffadwriaethol am ei lafur diflino dros ei wlad a'i genedl yn llenyddol, cymdeithasol, moesol, a chrefyddol. Dichon y teimla rhai fod llawer o bethau wedi eu gadael allan ag y dysgwylient hwy iddynt fod i fewn; ond ymdrech. wyd casglu pobpeth i'r gwaith fuasai yn help i osod y gwrthddrych allan yn ngwir deithi ei gymmeriad.
Cawsom lawer o fwynhad wrth ysgrifenu y Bywgraffiad er caleted y llafur; ac y mae yn dda genym erbyn hyn ein bod wedi ymroddi yn egniol at y gwaith, er yn ngwyneb llawer o anfanteision. Cyflwynwn yn y modd gwresocaf ein diolchgarwch i'r brodyr anwyl a'r cyfeillion hoff a'n cynnorthwyasant, enwau y rhai a ymddangosant yn ngwahanol ranau y gyfrol, yn nghyd ag amryw ereill rhy luosog i'w henwi.
Cyhoeddwn feirniadaeth y boneddigion parchus a galluog, John Evans, Ysw., Aberhonddu; y Parchn. Ddr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; a'r Proff. W. Edwards, Pontypwl; er i'r darllenydd gael mantais i wybod rhywbeth am deilyngdod llenyddol a bywgraffyddol y cyfansoddiad. Derbyniasom yn ddiolchgar eu nodiadau caredig, a gwnaethom ein goreu i gario allan eu hawgrymiadau, a chywiro y gwallau mor llwyr ag y medrem. Diau genym y gwel y llygadgraff ddiffygion etto yn y Bywgraffiad. Erfyniwn arno edrych heibio iddynt, a derbyn yr hyn a geir ynddo yn deilwng.
Gydag hyfrydwch mawr yr ydym yn awr yn cyflwyno y gyfrol i sylw ein cydwladwyr, yn gwbl hyderus y derbynir hi ganddynt mewn teim. lad cyffelyb, gan ddymuno ar iddi fod o fudd ac adeiladaeth iddynt, a gobeithio yn neillduol y bydd darllen hanes un a weithiodd ei ffordd mor llwyddiannus o'r fath ddinodedd trwy gynnifer o anhawsderau i safleoedd mor anrhydeddus a dylanwad mor fawr, fod yn symbyliad i gannoedd o ddynion ieuainc ei efelychu.
Gadlys, Aberdar.