Cyfanswm gwerth yr eiddo perthynol i eglwys Calfaria, yn cynnwys capel Calfaria, ysgoldy Bethel, Ynyslwyd, y Gadlys, dau dŷ annedd yn un a chapel Calfaria, un tŷ annedd yn perthyn i Bethel, un tŷ yn ymyl Ynyslwyd, a thri ty annedd yn ymyl y Gadlys, yw... £2,900 15 11
Mae ein dyled o'r tu arall ar gapel Calfaria, Bethel, Ynyslwyd, y Gadlys, a'r tai annedd, yn cyrhaedd y swm o...£1,000 0 0
Mae hyn yn dangos fod yr eglwys er y flwyddyn 1852, pan adeiladwyd capel Calfaria, wedi talu o gorff y ddyled heblaw y llog blynyddol, y swm mawr o... £1,900 15 11
Ond wedi gorphen y ddau dŷ helaeth a hardd sydd genym yn awr ar waith yn Ynyslwyd ac Abernant, bydd ein dyled wedi chwyddo £1,300 arall; felly, bydd ein dyled erbyn y Nadolig nesaf yn... £2,300 0 0
Ond erbyn hyn, bydd ein gwerth mewn eiddo wedi ei sicrhau i'r enwad yn cyrhaedd y swm o ... £4,200 15 11
Goddefwch gyda mi am un foment etto tra y rhoddwn olwg ar sef- yllfa bresenol eglwys Calfaria, gyda yr eglwysi hyny sydd wedi ym- gangenu o honi, a rhoi rhif eu haelodau, cyflwr yr ysgoliod Sul, gwerth eu meddiannau, a'r ddyled sydd yn aros ar yr eiddo perthynol iddynt. Ni a gymmerwn y cyfrif am 1862.
Rhif yr eglwysi a'u canghenau ... 17
Rhif y capeli a'r gorsafoedd ... 17
Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb...3096
Rhif y gweinidogion... 7
Rhif y gweinidogion a'r pregethwyr cynnorthwyol ... 18
Rhif yr ysgolion Sabbothol ... 17
Rhif yr Athrawon ... 419
Rhif yr ysgolheigion ... 3272
Cyfanswm gwerth y capeli, tai, &c ... £16,850 15 11
Dyled arosol ar yr eiddo ... £7,362 11 4½
Dyna ni wedi myned mor fyr ag oedd modd dros hanes eglwys gyntaf y Bedyddwyr yn Aberdar, gyda y rhai a hanasant o honi yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf. Mae y fechan wedi myned yn FILOEDD, a'r wael yn GENEDLOEDD cryfion. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen. Mae adolygiad y gorphenol yn ein cysuro yn y presenol, ac yn ein cryfhau erbyn y dy-