Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

iawn i'w cyflwyno i sylw ac ymarferiad ei eglwys. Y mae llawer o ddynion da i'w cael, ac hyd y nod weinidogion yn teithio llawer, eithr nid ydynt yn gallu gweled ond ychydig wedi y cyfan, neu, o'r hyn lleiaf, nid ydynt yn dangos ya wahanol i hyny; ond nid felly Price. Yr oedd efe bob amser â'i lygad yn agored a'i feddwl ar waith. Gwelai lawer yn mhob man, ac yn gyffredin gwelai ef bethau pwysig lle y methai rhai a chanfod dim, a phob amser, cai ei eglwys a'i gynnulleidfa y fantais o'r hyn a welai ac a glywai ag a fyddai o werth iddynt. Er fod y tir ar yr hwn y saif Calfaria i raddau yn gyfyngedig, gallodd y Dr., drwy ei fedr a'i gywreinrwydd, gynllunio, trefnu, a chodi'r Hall, gan osod ynddi nwyddau a seddau o gynllun ac arddull Americanaidd.

Yn ystod dygiad y gwaith o adnewyddu y capel ac adeiladu yr Hall yn mlaen, yr oedd Price, fel arfer, wedi ymgymmeryd ag arolygu y gwaith ei hun. Ni allai fod yn Ilonydd; yr oedd yn rhaid iddo fod â'i law gyda phob gorchwyl. Tra yn codi'r Hall, yr oedd braidd yn ddieithriad bob boreu i'w weled ar furiau yr adeilad o hanner awr wedi pump i chwech o'r gloch yn dysgwyl y gweithwyr at eu gorchwylion, er fod gydag ef lawer iawn o waith arall i'w gyflawnu mewn gwahanol gylchoedd. Tra yn eithaf caredig i'r gweithwyr, oblegyd ni allai ei yspryd caredig a'i natur dda ganiatau iddo fod yn amgen, etto yr oedd yn eithaf llym ar eu hol, ac ni phrisiai ddim gael ambell ffrae â hwy, os na fyddent yn cyflawnu eu dyledswyddau yn foddhaol. Ond er cael ambell i ffrwgwd, a gyru un yn awr ac eilwaith i'r d-l, yr oedd yn hynod o faddeugar ei yspryd, a byddai yn eithaf cyfeillgar i'r cyfryw wedi i'r pang fyned drosodd. Cerid ef yn fawr gan y gweithwyr a phawb, am yr ystyrient ef yn good meaning, ac yn jolly fellow, ac felly yr oedd. Ystyrid yr adgyweiriadau ar y capel ac o gwmpas iddo yn welliantau pwysig, a'r Hall yn ychwanegiad gwerthfawr i'r eglwys.

Mynodd Price weled cyfleusderau ereill yn cael eu sicrhau at wasanaeth yr eglwys, y rhai a ddesgrifia yn y Trem fel y canlyn:—

YSTAFELLOEDD CAPEL CALFARIA.

Yn Nghapel Calfaria, y mae amryw ystafelloedd eang a chysurus. Y gyntaf a nodwn yw—