ogaethol, a brodyr o eglwysi ereill, wedi addaw eu presenoldeb, eu cydymdeimlad, a'u cynnorthwy. Dydd Sul, Tachwedd 19, am 11 a 6, pregethir gan Dr. Price, y gweinidog, a chynnelir yr Ysgol am naw a dau o'r gloch yn Calfaria Hall.
"Dydd Mawrth, Tachwedd 21, cynnelir gwyl de flynyddol plant yr Ysgol yn y neuadd newydd.
"Nos Fercher, Tachwedd 22, pregethir gan y Parch. R. Hughes, Maesteg (Cadeirydd Cymmanfa Morganwg); Parch J. Thomas, Bassaleg; a'r Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy.
"Dydd Iau, Tachwedd 23, am 10 o'r gloch y boreu, pregethir gan y Parch. Thomas Thomas, D.D., Pontypwl, a'r Parch. Richard Hughes. Am ddau o'r gloch, gan y Parch. J. W. Todd, D.D., F.R.G.S., Forest Hill, Llundain, a'r Parch. John Thomas. Am 6, gan y Parch. James Owen, Abertawy; a'r Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy. (Dr. Thomas, Dr. Todd, a'r Parch. J. Owen yn Saesneg). Dydd Sul, Tachwedd 26, pregethir am 11 a 6 gan y Parch. J. R. Morgan (Lleurwg). Nos Lun, Tachwedd 27, pregethir gan y Parchn. W. Williams, Mountain Ash, a J. R. Morgan. Dydd Sul, Rhagfyr 3, am 11 a 6. pregethir gan y Parch. Richard John, Llanwenarth. Nos Lun, Rhagfyr 4, pregethir gan y Parchn. W. Harris, Heolyfelin, ac R. John.
"Yn ychwanegol at y gweinidogion a enwir, mae genym yr hyfrydwch hyspysu y bydd gweinidogion yr enwad trwy y dyffryn yn cymmeryd rhanau yn y cyfarfodydd agoriadol.
"Mae capel Calfaria wedi ei gyfnewid yn fawr, wedi ei addurno yn dlws, a'i wneyd yn hynod o gyfleus i'r gynnulleidfa i addoli y Duw byw, tra y mae y fynwent wedi ei dyogelu ag amgau cryf a hardd, ac wedi ei phlanu â choed bythwyrddion; ac yn olaf, mae Calfaria Hall yn ystafell eang a hynod gyfleus at wasanaeth yr Ysgol Sul, y Corau Canu, ein Cymdeithasau Dyngarol, &c. Mae y gost, o angenrheidrwydd, yn fawr, a byddis yn casglu yn y Cyfarfodydd Cyhoeddus. uchod at y draul. Mae y gweinidog a'r eglwys yn taer wahodd eu cymmydogion i ymweled â hwy yn rhai, os nid yr oll, o'r CYFARFODYDD AGORIADOL."