Tyddynwr oedd Richard Richards, yn cadw tyddyn o'r enw Glyngwyn," yn ymyl Mountain Ash, a byddai ei ddrws bob amser yn agored i Arch Duw i ddyfod i fewn. Tua'r amser hwn dechreuwyd cadw cyfarfodydd sefydlog bob pythefnos ar brydnawn Sabboth, a byddai pregethu y rhan fynychaf yn y cyrddau hyn, a byddent yn cael eu cynnal yn gyffredin yn nhai y brodyr Evan Morgan a Richard Richards, a nodasom yn barod. "Yn y flwyddyn 1843," meddai y Dr. yn y Jubili, "Adeiladodd yr eglwys yn Aberdar dy cwrdd bychan yno, a thŷ annedd mewn cyssylltiad ag ef." Dyma'r ty cwrdd cyntaf gan y Bedyddwyr yn Mountain Ash, ond ymddengys, er mor gywir yr arferai y Dr. fod mewn cyssylltiad â dyddiadau a ffigyrau, ei fod wedi gwneyd ychydig gamsyniad yma, oblegyd dywed Gwyno yn Seren Gomer am Hydref, 1883, fel y canlyn:—
'Yn y flwyddyn 1840. dechreuwyd ar y gorchwyl o adeiladu capel. Mesurai y ty cwrdd newydd 24 troedfedd wrth 20 troedfedd rhwng y muriau. Adeiladwyd hefyd dy annedd mewn cyssylltiad â'r addoldy, a gorphenwyd y cwbl, yn nghyd â'r muriau oddiamgylch y lle, am y swm o £154 12S. 8c. Agorwyd y capel y dydd cyntaf o fis Gorphenaf, 1841. Y pregethwyr yn y cyfarfodydd agoriadol oeddynt y Parchn. D. Davies, Abertawe; W. Jones, Caerdydd; W. R. Davies, Dowlais; T. Davies, High Street, Merthyr, yn Saesneg; T. Morris, Casnewydd; R. Williams, Llancarfan, a Dr Jenkins. Hengoed. Cafwyd cyrddau hynod o effeithiol trwy y dydd, fel yr oedd hyd y nod yr Undodiaid yn gorfod cyfaddef na chlywsant erioed well pregethu. Casgliadau y dydd, yn nghyd â'r hyn oeddynt wedi gasglu yn flaenorol, oedd £27 16s. 2g: ac yn ystod y flwyddyn ddyfodol casglwyd £26 16s. 6c. gan adael £100 o ddyled ar yr addoldy."
Bu yr achos yr adeg hon yn lled lewyrchus, ac yn y flwyddyn 1842 bedyddiwyd deuddeg o bersonau, ac erbyn hyn yr oeddynt yn gwneyd ugain o bersonau mewn cymundeb, a phob peth yn ymddangos yn ffafriol iawn. Ond yn herwydd annghydfod rhwng y Parch. W. Lewis, cynweinidog Penypound, â Jonathan Jones yn nghylch rhai pynciau crefyddol ac amgylchiadau ereill, cafodd yr eglwys ddyoddef yn erwin. Ysgrifenodd Gwyno yn mhellach:—
Effeithiodd y drafodaeth hon mor ddrwg, fel na fedyddiwyd cymmaint ag un yn y lle hwn yn ystod y saith mlynedd dyfodol. Fel llin