oedd Siams yn gallu canu llawer, ac nid oedd y Dr. wedi ei fendithio â'r ddawn hyn yn helaeth. Felly darllen Salm neu ddarn o bennod wnelent yn lle canu. Darllenai Price i ddechreu, yna elai Siams i weddi. Darllenai Price drachefn, ac yna elai efe i weddi; wedi hyny darllenid rhan o air Duw, ac äi Siams eilwaith i weddi, a therfynid y cwrdd gan y gweinidog. Fel yna byddai y brodyr yn gweddio dwy a thair gwaith yn yr un cyfarfod. Pan yn pregethu neu yn siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn Mountain Ash, adroddai y Dr., er mwyn dangos y gwahaniaeth yn sefyllfa yr achos, gyda theimladau dwys, yr hanes hwn. Weithiau byddai yn eu hadgofio o waith y chwiorydd bach ac yntau yn glanhau ac yn paentio yr hen gapel. Paentiwr rhagorol, fel y nodasom yn barod, oedd Price, a rhoddodd brawfion ymarferol o hyn fwy nag unwaith ar gapeli yn Aberdar a Mountain Ash. Adroddai mewn cwrdd mawr unwaith yn Nghapel y Rhos am dano ef a'r hen chwiorydd, (ac yn ei ffordd ddoniol ei hun, enwai hwynt megys Mary Siams y garddwr, Rachel Williams o'r Lock, Shan Davies, a Marged Penybanc, &c.) yn glanhau y tŷ cwrdd. “ Yr oedd y chwiorydd bach," meddai, "a'r dw'r a'r sebon, a'r brwsh scrwbio, yn mynu cael y cwbl yn lân, a minau yn eu dylyn, a'r brwsh a'r paent, ac yr oedd yno weithio, chwythu, a chwysu, a phob un yn cael hwyl a blas wrth feddwl am ei waith ei hun."
Ar ol y cyfnod marwaidd y cyfeiriwn ato, tua diwedd yr Haf yn y flwyddyn 1849, agorodd drws gobaith ar grefydd yn y lle. Clywyd trwst yn mrig y morwydd; cafwyd arwyddion er daioni - daeth dau i'r gyfeillach, sef John a Chatherine Thomas, neu fel eu gelwid hwy yn gyffredin, Shon Benybanc a'i wraig.[1] Dyma y ddau gyntaf a fedyddiodd Mr. Price yn y lle hwn: ac yn ystod y tri mis dylynol bedyddiodd bymtheg ereill, a'r rhan fwyaf o honynt yn hen wrandawyr astud, yn gwybod eu gwaith, a buont o ddefnydd mawr i godi pen yr achos yn yn y lle. Ail gychwynwyd yr Ysgol Sul gydag egni. Sefydlwyd swyddogion, sef arolygydd ac ysgrifenydd, peth na fu mewn cyssylltiad ag Ysgol Sul Mountain Ash o'r blaen. Tua'r un amser sefydlwyd ysgol gân, o dan arweiniad y brawd David Evans,
- ↑ Wedi claddu Shon, priododd Kate, fel ei gelwid hi, â John Griffiths, yn awr y Parch John T. Griffiths. Lonsdale, Pensylvannia, America, ac y maent wedi byw yn ddedwydd gyda'u gilydd.