Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/129

Gwirwyd y dudalen hon

ac wedi gwasanaethu yn y swydd yno am flynyddau. Cafodd yntau ei ddewis i wasanaethu yma (gwel Seren Gomer am Hydref, 1883).

Er fod cyssylltiad uniongyrchol Price a'r eglwys yn awr wedi darfod, etto teimlai yr eglwys a'r gymmydogaeth yn gyffredinol barch neillduol ato, a dangosent bob amser y dyddordeb mwyaf ynddo. Yr oedd fel tywysog yn y lle bob tro y deuai i lawr, ac yr oedd hyny am lawer o flynyddau, fel y nodasom yn barod, yn bur aml. Yr oedd wedi cael cyfeillion trwyadl yn hen deuluoedd parchus y Glyngwyn, Penybanc, y Darran Las, &c. Byddai Ambrose, Shon, Evan a Thwmi Glyngwyn, yn llythyrenol yn ei addoli. Credai Shon a Thwmi Penybanc nad oedd ei ail i'w gael, ac nis gallai fod yn uwch yn marn y Morganiaid, Modryb Magws, a Mrs. Mary Thomas o'r Bruce Arms, lle yr arferai gael ei giniaw a'i dê braidd bob Sabboth yn ystod y deg mlynedd y bu yn gofalu am yr eglwys, ac nid y lleiaf o'i edmygwyr oedd yr hen frawd doniol ac hwyliog, Richard Shon. Hefyd, teimlai Price ei hun ymlyniad serchgarol wrth hen bobl barchus y Mount. Gwnaeth eu serch ato yn nghyd â'r parch mawr ddangosasant iddo argraff ddofn ar ei galon a'i deimlad. Yn ei Jubili dywed eiriau a brofant hyn yn eglur: "Nid annghofia y rhai ag oedd ar y cymundeb hwnw[1] y telmladau ddangoswyd at Mr. Price ar ei ymadawiad, wedi bod yn eu gwasanaethu fel eu gweinidog am y deng mlynedd blaenorol." "Yr oedd yno," meddai yn mhellach, "ychydig o oreuon y ddaear yn byw, a thrachefn, tra y byddom byw, bydd genym adgofion parchus iawn an aelodau boreuol Mountain Ash. Y maent gan mwyaf wedi ymadael; ond cawn etto gwrdd yn y nef er adolygu llawer cyfarfod cysurus a gawsom gyda'n gilydd ar y ddaear."

Y mae yr eglwys hon wedi parhau oddiar sefydliad Mr. Williams, yr hwn sydd yn aros hyd heddyw, ac yn un o

  1. Sef y Sul o flaen y cwrdd sefydliad. Yr oedd Price i fedyddio y Sul hwnw, ond collodd y tren yn Aberdar. felly gorfu iddo gerdded lawr i'r Mount. Yr oedd Mr. Williams wedi gwisgo yn barod i fed voldio ei hunan, wedi gweled na ddaeth Price gyda y tren, ond pan oedd Mr. Williams bron yn barod i arwain y bedyddiedigion i'r dwfr, gwelent Price yn dyfod wedi cerdded bob cam ac yn llaca mawr hyd ei benlin iau. Yn mlaen yr aeth yn benderfynol i wneyd y gwaith y dysgwylid iddo ei gyflawnu. ond gwrthodwyd iddo gan y brodyr, gan ei fod wedi poethi yn ormodol ac yn llawn chwys.