gymmeriadau puraf y pwlpud yn Nghymru, yn ei gweith garwch, mae ei llwyddiant wedi bod yn dra helaeth, ac y mae mor flodeuog a llewyrchus heddyw ag erioed. Gwawr, Aberaman, hefyd sydd gangen arall o hen Eglwys Penypound. Credaf y cawn ddelweddiad mor gywir o Price yn ei gallder ymarferol, a'i fedrusrwydd digyffelyb i gwrdd ag achosion helbulus yn ei gyssylltiad a'i berthynas ag eglwys Gwawr ag a gawn mewn unrhyw gyfeiriad y bu ynddo. Bu yr eglwys hon yn ei dyddiau boreuol mewn trallodion lu, fe ddichon yn herwydd toriad cynnarol ei chyssylltiad â'r fam—eglwys Camsyniad sydd yn cael ei wneyd yn rhy gyffredin gan gangenau ydyw hwn, ac y maent yn fynych yn gorfod dyoddef canlyniadau chwerwon yn ei herwydd. Dywed gohebydd yn Seren Cymru am Ionawr y 4ydd, 1867, pan yn ysgrifenu ar achlysur jubili dyled yr eglwys yn Ngwawr, fel y canlyn:
Mae y ffaith fod yr eglwys wedi talu y ddyled oll yn achos o syndod ac yn destyn diolchgarwch Mae y syndod yn fwy. gan fod yr Eglwys yn Gwawr, Aberaman. wedi dyoddef mwy o dywydd garw, ac we li cael mwy o gam—chwareu nâ nemawr eglwys yn Nghymru. Yr ydym ni sydd yn ei hadnabod o i genedigaeth hyd yn awr yn synu mwy, ac yn diolch i Dduw yn fwy difrifol nag a wyr neb ond yr ychydig frodyr da sydd wedi bod gyda ni yn y tywydd chwerw ag y bu yr eglwys hon ynddo "
Mewn trefn i ddangos yr helbulon y cyfeiria y gohebydd hwn atynt, a chan eu bod yn dwyn perthynas agos â Price, fel un yn benaf a aeth drwyddynt, gosodwn yma fraslinelliad o'i hanes fel yr adroddir ef gan Price yn ei Jubili. Dywed yn debyg i hyn:—
"Dechreuodd Eglwys Aberdar lafurio yn Aberaman yn niwedd y flwyddyn 1846. Wedi i Arch yr Arglwydd fod yn ymsymmud o dỷ i dy am dymhor hir. ardrethwyd ystafell eang yn ymyl y King William.' yn yr hon y dygwyd y gwasanaeth yn mlaen ar y Sabbothau ac yn yr wythnos. Yn 1848, penderfynwyd codi capel cyfaddas i sefyllfa gynnyddol y lle. Erbyn Mehefin, 1849, yr oedd y ddalysgrif (lease) wedi ei chymmeryd ar adeiladu ar gael ei gychwyn. Ar y Sul o flaen y Gymmanfa y flwyddyn hono, yn ddisymmwth gwnaeth y gangen gais at y fam eglwys am ei chorffoli, er bod yn eglwys ar ei phen ei hun."