bunnau o gost i'r eglwys yn Nghalfaria. Ond er pob gwrthwynebiad, yn Mrawdlys Haf 1851, adennillwyd y capel trwy y gyfraith, a chafwyd ailfeddiant o hono gan Uchel Sirydd Morganwg. Ar Tachwedd y 4ydd, 1851, daeth tua dwy fil o ddynion at eu gilydd i weled y capel yn cael ei adfeddiannu gan y Bedyddwyr; ond yr oedd y dyn drygionus, David Jones, yn nghyd â rhyw apostol gau, wedi cloi eu hunain o fewn y capel, a chan nad oedd hawl gan y Sirydd i dori y drws, yr oedd yn ymddangos fod y Seintiau yn debyg o gadw y capel, er fod y gyfraith yn eu herbyn. Ond nid oedd Price, wedi ymladd ei frwydr hyd yn hyn yn fuddugoliaethus, yn myned i gael ei orchfygu gan y ddau saint-gythraul oeddynt yn cadw gafael yn y capel.
Clywsom ef yn ei flynyddau olaf yn adrodd yr helynt gyda blas a hwyl, a cheisiwn osod yr hanes mor agos ger bron ag y cawsom ef ganddo, yn cael ei attegu gan ereill oeddynt yn llygaid-dystion o'r cwbl. Yr oedd Dewi a'r apostol wedi cloi a bolltio drws y capel gan ei osod mor ddyogel ag oedd yn bossibl. Hefyd, yr oeddynt wedi hoelio yn sicr bob un o'r ffenestri, y rhai oeddynt ychydig yn anhawdd eu cyrhaedd o'r tu allan. Yr oedd y bobl yn aros yn ddysgwylgar am olygfa, ac yn teimlo i raddau yn gas at y trawsfeddiannwyr oeddynt yn y deml. Dacw Price yn dyfod, yn wyllt yr olwg, cerddai yn gyflym, edrychai yn benderfynol, ac yr oedd pob ysgogiad o'i eiddo yn dweyd capel i'r Bedyddwyr ac nid i'r Seintiau oedd Gwawr i fod yn y man. Yn nghanol cynhyrfiad y bobl wele ef yn treio y drws, ond i ddim pwrpas. Ar hyn, y mae yn gwaeddi mewn modd awdurdodol ar un o'i ddiaconiaid, Mr. Phillip John, ac ar David Grier, saer, yr hwn oedd ag ychydig offer gweithio yn ei logell ar y pryd. "Agorwch y ffenestr yma, Grier," gwaeddai yn wyllt, "ac af i fewn at y d——liaid." Gwnawd hyn yn ddioedi, a chynnorthwywyd Price i fewn trwy y ffenestr gan Phillip John a Grier, a chanlynasant ef ar unwaith. Yr olygfa gyntaf gawsant oedd gweled Price yn cwrsio ar ol Dewi a'r apostol o amgylch y capel, i fyny i'r pwlpud ac i lawr drachefn, ac wedi myned o amgylch ddwy neu dair gwaith daethant i'r ddalfa yn y lobby. Cydiai Price ynddynt gyda gafaeliad cawr. Dywedodd wrth Grier a John am agor y drws, yr hyn a wnaethant drwy gryn drafferth. Ar hyn troediwyd yn llythyrenol y ddau ddyhiryn y naill ar ol y llall o'r capel