yn ddiacon ffyddlon a gweithgar yn yr eglwys am flynyddau, ond gwnaeth longddrylliad yn y ffydd a chafwyd colled enfawr ar ei ol. Cawn a ganlyn ar goflyfr y Gadlys am yr Ysgol Sul:-" Rhif yr ysgol gyntaf oedd 113, o ba rai yr oedd 39 yn aelodau. Yr oedd Dr. Price, ein hanwyl weinidog, yn bresenol, a'i holl enaid yn y gorchwyl o sefydlu achos yn y lle." Wedi bod yn ymdreiglo o dy i dy â'r ysgol am rai misoedd, penderfynwyd ar godi ysgoldy. Ymgymmerodd Price, yn ol ei barodrwydd arferol, at sicrhau tir, a chafodd addewid am lecyn cyfleus gan Mr. Thomas Wayne ar ystâd y Gadlys, ond pan ar fedr tynu allan y cytundeb, trodd allan na ellid ei gael, am fod lease y cwmni yn gwahardd rhoddi tir i adeiladu capelau i'r Ymneillduwyr arno, ond cyn gynted ag y cafodd Price y nacâd, dywedodd yn ei ddull meistrolgar a phenderfynol, "Land for building my chapel I will get ere I sleep to-night," ac felly y bu: aeth yn uniongyrchol at foneddwr o gyfaill iddo, sef J. L. Roberts, Ysw., meddyg, Gadlys Uchaf, ac wedi gosod ei gais o flaen Dr. Roberts, llwyddodd yn y man. Cafodd ddewis ei le, a phenderfynodd ar y darn y saif Capel y Gadlys arno yn bresenol. Awd yn mlaen â'r gwaith o adeiladu yn ddioed, ac nid hir y bu yr ysgoldy a'r annedd-dai perthynol iddo cyn bod yn barod. Cynnaliwyd yr ysgol gyntaf yn y lle newydd Chwefror y 6ed, 1859. Cynnyddodd yr ysgol yn gyflym, ac mewn ychydig amser rhifai 180 o ysgolheigion, 56 o'r cyfryw oeddynt yn aelodau o'r fam-eglwys yn Nghalfaria. Yn gweled fod yn y Gadlys lawer iawn o bobl ieuainc, bywiog, ac yn meddu ar hoffder i ganu ac adrodd, cyfansoddodd y Dr. bwnc, fel y dywed ysgrifenydd y Gadlys yn ei gronicliad o hanes boreuol yr eglwys, "at wasanaeth yr ysgol hon; y testyn oedd 'Yr Efengyl a'i llwyddiant.' Yr oedd i fod wedi ei ddysgu ganddynt erbyn dechreu 1860. Yr elw oddiwrtho i fyned at genadaeth China." Cynnyddodd yr ysgol a'r eglwys hon yn gyflym, fel yr oedd yn 189 o aelodau pan yn cael ei derbyn yn aelod o'r gymmanfa yn Nowlais yn Mehefin, 1865. Yn y flwyddyn hono yr agorwyd y capel. Rhoddwyd y contract o'i adeiladu allan i Mr. Thomas Roberts dydd Llun, Mai yr 8fed, 1864, am y swm o £675. Yn ei fynegiad o hanes cyfarfodydd agoriadol y Gadlys yn Seren Cymru am Mehefin y 30ain, 1865, dywed y gohebydd,
"Mae yn deilwng o sylw mai hwn yw y seithfed capel ag y mae Eglwys Calfaria wedi ei godi er sefydliad y Dr. Price yn weinidog yn