Yn y Bedyddiwr am Ragfyr, 1854, cawn hanes cymmanfa flynyddol gyntaf Ysgolion Sabbothol y Bedyddwyr yn Mhlwyf Aberdar a'r cymmydogaethau. Yr oedd yn perthyn i'r undeb cynnulleidfaol hwn, yr adeg hono, saith o ysgolion, sef Pontbrenllwyd, Hirwaun, Heolyfelin, Aberdar, y Cymry, etto y Saeson, Aberaman, a'r Cwmbach. Cyfarfuant â'u gilydd y waith hon yn Heolyfelin ar yr 16eg o Ragfyr, 1854, ac anrhegwyd y plant â thê am eu ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbothol. Canwyd ac Canwyd ac adroddwyd amryw ddarnau yn ystod y tê, a chafwyd anerchiadau gan Mr. Williams, Cwmbach, a Price, ac edrydd y gohebydd fel hyn am danynt:—"Yn ganlynol i hyn, cafwyd araeth hollol bwrpasol i'r amgylchiad gan Mr. Williams, Cwmbach, ac yn olaf, areithiodd Mr. Price, Aberdar, nes oedd ein calon yn gwresogi ynom, a'r oll o honom mewn hwyl a theimlad cysurus."
Yn y flwyddyn ddylynol, yr oedd Ysgol Mountain Ash wedi ymuno â'r undeb, ac ar eu gwyl flynyddol, cawsant eu hanrhegu â thê gan Thomas Joseph, Ysw., a'i briod hawddgar, ar drum Mynydd yr Ysguborwen. Cawsant wledd foddhaol, a threuliasant ddiwrnod dedwydd yn nghyd. Darllenwyd cerdd—anerchiad i Ysgolion Aberdar gan T. ab Ieuan ar yr achlysur, yr hon a gyhoeddwyd yn y Bedyddiwr am Hydref, 1855, dau bennill o honi a ddyfynwn yma:—
"Penpound, Aberdar, a'r Saeson yn canlyn,
Cwmbach, Aberaman, Mountain Ash, Heolyfelin.
A Hirwaun a'r Bontbren sy'n cydgwrdd yr awrhon,
A Joseph a'i briod yn lloni eich calon :
Rhowch iddynt y parch sydd 'nawr yn ddyledus,
Am iddynt ddarparu i'ch gwneyd mor gysurus.
"Hir oes i'r boneddwr a'i hardd foneddiges,
A'u plant bach serchiadol, dymunaf yn gynhes;
Boed gwenau Rhagluniaeth a gras yn eu noddi
Ac iddynt wledd fythol fry, fry, gyda'r Iesu;
Hyn hefyd ddymunaf i chwithau, ysgolion,
Cael cydgwrdd â Joseph yn ngwlad Mynydd Seion."
Ymunodd ysgolion High Street (Merthyr) a Throedyrhiw ag ysgolion Aberdar y tro hwn: ond yr oedd y bardd wedi cyfansoddi ei gân cyn eu gweled yn dyfod. Parhaodd yr Undeb hwn am flynyddau meithion. Cyflwynwyd y merched ieuengaf,—Bethel, Ynyslwyd, a'r Gadlys, i'r cylch