Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/148

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XII.

PRICE YN EI BERTHYNAS A'R BEDYDDWYR YN Y SIR AC YN GYFFREDINOL.

Cylchoedd bychain—Dynion yn ymfoddloni ynddynt—Price yn llanw cylchoedd eang—Bedyddwyr y sir yn lluosogi—Cewri y rhengau blaenaf—Price yn un—Man of business—Elfenau ei lwyddiant—Ei sefyllfa fydol—Ei wybodaeth gyfreithiol—Yn awdurdod ar ddysgyblaeth eglwysig—cyflymdra ei feddwl—Ei yspryd anturiaethus—Deall o barthed "gweithredoedd capeli yn dda—Arwain mewn achosion pwysig—Achos gwael—Cynnadleddwr enwog—Gwleidiadaeth yr enwad—Dawn cymmodi pleidiau—Pregethu yn aml—Price yn fawr yn y gymmanfa—Undeb Bedyddwyr Cymru—Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon—Yn y pwyllgorau—Ar lwyfanau prif drefi Lloegr—Yn Exeter Hall—Gohebydd Llundain—Barn y "Christian World" amdano.

SYRTHIA rhai dynion i gylchoedd cymharol fychain a dibwys, ac arosant ynddynt drwy oes hirfaith, heb deimlo dim anesmwythder na gwasgfa. Erys y lleoedd yn agos yr un fath mewn ffurf a maintioli, ac arosant hwythau yn agos yr un modd: nid oes tyfiant ac ymeangiad yn eu hanes. Nid un felly oedd Price, fel yr awgrymasom yn flaenorol,—aeth Aberhonddu yn rhy fechan i'r llanc ieuanc o blwyf Llanamlwch, ac ni wnelai ei dro lai nâ myned i'r Brif Ddinas. Ymsefydlodd yn ddyn ieuanc yn nyffryn prydferth Aberdar, yr hwn a gynnyddai, fel y nodasom, gyda'r cyflymdra mwyaf: ond yr oedd elfenau tyfiant a blaenfynediant yn gryfion yn Price hefyd. Tyfai Aberdar yn gyflym, ond Price yn gyflymach: cynnyddodd Aberdar yn fawr, ond aeth Thomas Price yn fwy. Yr oedd efe fel y bachgenyn gwledig iach, yn tyfu allan yn fuan o'i ddillad, ac felly, yn galw am wisg arall eangach. Felly Price, tyfai allan dros gyffiniau lleol Aberdar, yn gymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol.

Yr oedd Sir Forganwg yn ymagor, ac yn cyflym gynnyddu bron yn y cyfnod y daeth y Dr. i Aberdar; felly, yr oedd yr enwad Bedyddiedig yn naturiol yn cynnyddu, ac