a'r mynych gymmeradwyaethau brwdfrydig oedd yn gael yn gwir deilyngu hyny: Gan y bydd ei araeth yn ymddangos yn y Seren, ni wnawn ond sylwi i'r dyfyniad Cymreig o Dewi Wyn greu bywyd rhyfedd drwy y lle, ac nid ychydig o ddifyrwch, yn enwedig pan ddymunodd y Dr. am i'r gynnulleidfa oll gael ei bedyddio ag yspryd y bardd hwnw, gan nad oedd gan y mwyafrif un dychymyg pa yspryd oedd yn y geiriau. Pan derfynodd, yr oedd y curo yn anferthol a diderfyn, y cyfryw nas gwelwn yn fynych ei gyffelyb; ac ni thewid hyd oni ddaeth y Dr. yn mlaen eilwaith i ddweyd y byddai iddo ddyfod yno y flwyddyn nesaf etto, os caniataai Duw. Ar ei ol siaradodd Charles Reed, Ysw., Cadeirydd Cymdeithas Genadol Llundain, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi. Wrth daflu cipolwg dros y cyfarfodydd, y mae y Christian World yn gwneyd y nodiad canlynol am y Dr. Wedi sylwi yn gymmeradwyol am araeth a dull y Parch. C. Clark, Caerodor, dywed: The other speech of the evening was that of the fervid and famous Welsh orator, Dr. Price, of Aberdare, who, in a series of rapid and vivid sketches, recalled, for the benefit of the young among his hearers, the remarkable history of the Baptist Missionary Society. It was far from easy to keep up the excitement produced by Dr. Price's glowing pictures; but Mr. Charles Reed, representing the London Missionary Society, gained the ear of the meeting, and rendered good services to the mission cause.'"
Pregethodd y Dr. hefyd lawer yn rhai o bwlpudau Lloegr, Ysgotland, a'r Iwerddon, ac yr oedd yn ddieithriad yn gwneyd argraffiadau dwfn a daionus ar feddyliau ei wrandawyr, ac edrychid i fyny ato fel un o gewri y pwlpud Cymreig. Dywedai Myfyr Emlyn yn Y Geninen, "Ac yr oedd Cymru yn rhy fach iddo." Braidd na ddywedwn, Felly hefyd Lloegr," oblegyd yr oedd "Dr. Price Aberdare" wedi dyfod yn eiriau teuluaidd yno, yn neillduol yn y cyfenwad Bedyddiedig. Hefyd, daeth ei enw yn adnabyddus a pheraroglus yn yr Iwerddon a'r America. Torodd ei lafuriadau a'i ddylanwad dros ben terfynau Cymru, ei wlad, a'i gydgenedl hawddgarol. Talodd ymweliad â'r Iwerddon, ac wedi hyny a'r America, yn nglyn ag hyrwyddiant achos y Gwaredwr Mawr, yr hwn oedd mor agos at ei galon ac mor anwyl gan ei enaid. Felly, caiff y teithiau hyn ein sylw yn nesaf, gan eu bod yn barhad mewn ystyr o'i gyssylltiad â'r enwad parchus y cafodd yr anrhydedd o fod yn aelod o hono a gwneyd cymmaint o waith sylweddol a gwir werthfawr drosto.